Mae perchennog reid ffair a adawodd ddau fachgen yn eu harddegau wedi’u hanafu’n ddifrifol, wedi cael ei orchymyn i dalu dros £11,000 o gostau.

Roedd Conor Baker a Danny Keogh, ar y pryd ill dau’n 16 oed, ar reid y Mega Bounce Frog mewn ffair yn Abbey Park, Swydd Gaerlyr, pan ddigwyddodd y ddamwain yn ha’ 2012.

Fe drodd y cerbyd yr oedden nhw’n teithio ynddo ar ei ben, ac fe syrthiodd y bechgyn allan ohono ar Orffennaf 28, 2012.

Roedd y bechgyn yn y ffair er mwyn dathlu diwedd eu harholiadau TGAU.

Fe gafodd perchennog y reid, William Roberts, 36, o Atherton, Manceinion ei ddirwyo £6,500 a’i orchymyn i dalu costau o £5,000, wedi iddo gyfadde’ torri rheolau ynglyn a diogelwch y reid.