Plas Newydd, Ynys Mon
Mi fydd un o blastai hynaf Cymru yn defnyddio dull arloesol o wresogi’r adeilad gyda thechnoleg sy’n defnyddio dŵr o afon y Fenai.
Y system newydd ym Mhlas Newydd ar Ynys Môn, sy’n cael
ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fydd y cynllun mwyaf o’i fath ym Mhrydain.
Mae disgwyl i’r system, sydd wedi costio £600,000 i’w gosod, arbed £40,000 y flwyddyn i’r ymddiriedolaeth wrth wresogi’r plasty 300 mlwydd oed.
Bydd pwmp gwresogi 300 cilowat yn cael ei osod ar y tir a fydd yn defnyddio egni o ddŵr y môr ac yn ei drosi yn wres, er mwyn arbed gorddefnydd o olew. Roedd angen 1,5000 o litrau o olew i wresogi’r plasty ar rai dyddiau gaeafol.
Mae’n un o bum cynllun peilot gwerth £5.3 miliwn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rhan o raglen ynni adnewyddol.
‘Gwneud synnwyr’
Dywedodd Adam Ellis-Jones, cyfarwyddwr cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei bod hi’n gwneud synnwyr i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar stepen ddrws y plasty:
“Ond nid yw bod yn arloesol yn hawdd.
“Nid oes pwmp gwresogi o’r maint yma ym Mhrydain felly mae hi wedi bod yn brosiect heriol ond cyffrous iawn.”
Bydd cynllun arall gan yr Ymddiriedolaeth hefyd yn cael ei datblygu yn fferm Hafod y Porth ger Beddgelert.