Mark Isherwood
Mae’r “ansicrwydd” ynglŷn ag uno cynghorau’r gogledd yn golygu bod cydweithio rhyngddynt ar stop, yn ôl un Aelod Cynulliad.
Wrth holi’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Lesley Griffiths, yn y siambr dywedodd Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Mark Isherwood: “Mae arweinyddion awdurdodau lleol y gogledd yn dweud wrthyf eu bod angen sicrwydd ac eglurder – mae’r ansicrwydd yn achosi niwed.”
Daeth Comisiwn Williams – a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru – i’r casgliad ddechrau’r flwyddyn fod, fwy neu lai, angen haneru nifer y Cynghorau Sir yng Nghymru drwy eu huno.
Roedd yr adroddiad yn dweud y dylid gweithredu ar yr awgrymiadau erbyn y Pasg eleni.
Ond dywedodd Lesley Griffiths wrth Mark Isherwood yr wythnos diwethaf y byddai Llywodraeth Cymru’n dweud eu dweud ar hyn cyn yr haf.
‘Ansicrwydd’
Ddechrau’r wythnos, dywedodd Mark Isherwood wrth Golwg: “Mae fy ffynonellau i’n dweud wrthyf nad oes gan awdurdodau’r gogledd ddiddordeb mewn bod yn rhan o unrhyw uno gwirfoddol.
“Byddai hynny, medden nhw, yn cymryd llawer o adnoddau am ychydig o gynnydd os na fydden yn gwybod pa ganlyniad mae Llywodraeth Cymru eu heisiau.”
Ar hyn o bryd, meddai, “y cytundeb yn y gogledd yw peidio gwneud unrhyw newidiadau strwythurol na chydweithio oherwydd yr ansicrwydd.”
Gan roi enghraifft o hynny dywedodd Mark Isherwood: “Maen nhw’n dweud wrthyf fod uno arfaethedig rhwng adrannau cyfreithiol Cynghorau Sir Y Fflint a Sir Ddinbych wedi ei roi ar stop rhag ofn i Lywodraeth Cymru ddweud bod rhaid i Ddinbych uno gyda Chonwy.”
Ychwanegodd fod arweinyddion awdurdodau lleol y gogledd yn dweud wrtho mai’r “unig ffordd i ymdrin â chostau uno yw drwy gyflogi llai o staff ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd unrhyw ddiswyddo gorfodol.”
Fe ofynnodd Golwg i Lywodraeth Cymru am ymateb i sylwadau’r Aelod Cynulliad.
Stori: Siân Williams