Y brotest yng Nghaernarfon
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn gosod sticeri ar swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon heddiw, er mwyn galw ar Carwyn Jones  i wneud mwy mewn ymateb i ganlyniadau’r cyfrifiad diwethaf.

Fe wnaeth ymgyrchwyr iaith, a oedd yn cynnwys yr awdures Angharad Tomos, osod y sticeri gyda  “Llywodraeth Cymru – gweithredwch” arnyn nhw, dros ffenestri swyddfa’r Llywodraeth yn y dref tua 8 y bore ma.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau. Mae’r rhain yn cynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i’r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau.

Mae’r brotest yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy’n rhoi pwysau ar Lywodraeth Lafur i weithredu ar frys yn dilyn cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg.

‘Chwerthinllyd’

Meddai Cen Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Ymhell dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae’n hen bryd i’r Llywodraeth gyflwyno newidiadau polisi a fydd yn galluogi pawb yn ein gwlad i fyw yn Gymraeg.

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i weithredu o ddifrif mewn chwe maes penodol, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Gydag ewyllys gwleidyddol gall pethau newid, ond hyd yn hyn mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn chwerthinllyd.

“Gobeithio y bydd ein protestiadau yn eu sbarduno i weithredu .”