Gruff Rhys
Bydd Gruff Rhys yn chwarae gig arbennig yn Glastonbury eleni wrth iddo arddangos cynnyrch newydd ei brosiect American Interior ar draws sawl cyfrwng.

Cafodd albwm o ganeuon wedi’u hysbrydoli gan daith y Super Furry i America, ble bu’n olrhain hanes un o’i gyndeidiau, ei ryddhau bythefnos yn ôl.

Yn ogystal â hwnnw fe wnaeth Gruff Rhys ffilm ddogfen arbennig o’r profiad, a rhyddhau ap a llyfr yn gysylltiedig â’r prosiect.

Fe fydd y canwr yn chwarae gig arbennig yn y Crow’s Nest yn Glastonbury, gyda’r ŵyl gerdd yn digwydd rhwng 27 a 19 Mehefin eleni.

Bydd y ffilm hefyd yn cael ei harddangos yn y Babell Sinema, ac fe fydd Gruff Rhys yn trafod y llyfr ar lwyfan y Free University yn ogystal â chwarae set DJ ym mhabell Stonebridge.

Fis diwethaf fe gadarnhawyd fod y Manic Street Preachers ymysg y bandiau yn perfformio yng Ngŵyl Glastonbury eleni.

Yn ogystal ag ymddangos yn Glastonbury bydd Gruff Rhys hefyd yn ymddangos mewn nifer o wyliau cerdd yng Nghymru dros yr haf gyda’i brosiect American Interior.

Mae’r rhain yn cynnwys Gŵyl Gelli Gandryll ar 26 Mai, Merthyr Rising ar 31 Mai, Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr ar 22 Mehefin, a Gŵyl Gwydir yn Llanrwst ar 29 Awst.