Brian Ward
Mae’r Heddlu ym Mhontypridd yn apelio i’r cyhoedd am wybodaeth er mwyn dod o hyd i ddyn sydd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw.
Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio am Brian Ward ers iddo ffoi yn ystod achos llys yn ei erbyn yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Tachwedd 2013.
Bu i’r rheithgor ei gael yn euog yn ei absenoldeb.
Roedd Brian Ward yn byw ym Mhont-y-clun ond mae ganddo hefyd gysylltiadau yng Nghasnewydd a Llundain.
Mae’r heddlu o’r farn ei fod yn rhywle yn ardal Rhondda Cynon Taf a bod rhywun yn rhoi lloches iddo.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dave Peart: “Rwyf am atgoffa’r person hwnnw eu bod nhw’n cyflawni trosedd ddifrifol. Gwnewch y peth cywir a chysylltwch â ni ar 101 neu drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.”