Jeff Cuthbert
Bydd Llywodraeth Cymru’n lansio gwefan newydd i helpu dioddefwyr troseddau casineb heddiw.

Bydd y Gweinidog Cymunedau, Jeff Cuthbert, yn lansio’r wefan, a llinell gymorth fydd ar agor 24 awr y dydd, yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Ond rhybuddiodd Jeff Cuthbert  bod angen “newidiadau diwylliannol” i wneud yn siŵr bod Cymru’n wlad gyfartal a theg.

Mae gwleidyddion yn disgwyl i’r 1,810 o droseddau casineb gafodd eu cofnodi yn 2012-13 i godi yn y blynyddoedd nesa.

Meddai Jeff Cuthbert bod poblogrwydd gwefannau rhyngweithio cymdeithasol wedi gwneud hi’n anoddach rheoli troseddau casineb.

Bydd Cymorth i Ddioddefwyr yn derbyn £488,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i reoli’r cynllun a fydd yn cynnwys pob trosedd casineb fel hil, crefydd, anabledd, tueddfryd rhywiol, rhyw ac oedran.

Meddai Jeff Cuthbert AC: “Mae angen newidiadau diwylliannol fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fyw mewn Cymru sy’n gyfartal, yn deg ac yn groesawgar i bobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau.

“Rydym am i’n bobl ifanc a phlant dyfu i fyny mewn Cymru lle mae pobl yn cael eu derbyn am bwy ydyn nhw.”