Dafydd Wigley yn y Redhouse
Dychwelodd Dafydd Wigley at ei wreiddiau gwleidyddol neithiwr wrth draddodi araith yn hen neuadd y dref ym Merthyr Tudful, ble bu’n gynghorydd yn y 1970au cynnar.

Ymosododd cyn-Lywydd Plaid Cymru ar bleidiau mawr Prydain am adael i UKIP osod yr agenda gwleidyddol a throi’r ddadl am Ewrop i gyfeiriad “trychinebus”. Rhybuddiodd am effeithiau economaidd tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae ei araith yn hen neuadd y dref, sef canolfan Redhouse bellach, wedi cael ymateb gwresog gan selogion Plaid Cymru ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymosod yn chwyrn ar Blaid Cymru.

‘Ideoleg gul’

“Mewn gwirionedd mae Plaid Cymru yn debyg i UKIP,” meddai Eluned Parrott AC, llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar Ewrop.

“Mae’r ddwy blaid yn gosod eu ideoleg gul, ymwahanol yn gyntaf, gan fygwth economi a swyddi Cymru. Nid yw’r naill na’r llall yn sefyll lan dros Gymru na’n gweithredu drosti achos maen nhw’n rhoi ein safle ni yn Ewrop dan fygythiad.”

Ychwanegodd Eluned Parrott nad yw safbwynt Plaid Cymru yn gredadwy.

“Ni allwch chi ddadlau dros ein cadw ni yn Ewrop i weithio gyda gwledydd cyfagos, tra’n dyheu i Gymru droi ei chefn ar weddill y Deyrnas Unedig,” meddai’r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru

“Ni allwch chi geisio curo cenedlaetholdeb Seisnig gyda chenedlaetholdeb Cymreig. Mae’r ddau eisiau codi rhwystrau a’n gwahanu ni rhag gweddill y byd, heb bryder am oblygiadau hynny,” meddai.

Mae llai na phythefnos yn weddill tan etholiad Ewrop ar Fai 22ain.

Ni lwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol gael sedd Ewropeaidd y tro diwethaf, a ddoe roedd Plaid Cymru yn hawlio cefnogaeth gan ddau gyn-ymgeisydd y Dems Rhydd. Mae Mark Young ac Amy Kitcher wedi dweud y byddan nhw’n bwrw pleidlais dros Blaid Cymru ar Fai 22.