Emyr Jones, Llywydd yr FUW; Hedd Pugh, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014, yr artist Mari Eluned, a Huw Jones, Swyddog FUW Meirionnydd
Cafodd cadair a choron Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 eu dadorchuddio ym Mhortmeirion neithiwr.
Artist ifanc o Fallwyd ym Meirionnydd, Mari Eluned, wnaeth ddylunio a chynhyrchu’r goron.
Mae’r goron wedi ei hysbrydoli gan dymor y gwanwyn ac wedi ei gwneud o arian, aur a llechen o Feirionnydd.
John Pugh o Bennal, Machynlleth, greodd a chynllunio’r gadair. Yn anffodus, oherwydd salwch, ni lwyddodd John Pugh i gwblhau’r gadair, ond mae’n debyg ei fod wrth ei fodd gyda’r darn gorffenedig gan fod Iolo Puw o’r Parc ger Y Bala yn cynorthwyo gyda chamau olaf y gwaith.
Dylanwad cyd-Geltiaid sydd i siâp y gadair Albanaidd.
‘Braint’
NFU Cymru Sir Feirionnydd sy’n noddi’r gadair eleni ac yn ôl Geraint Rowlands, Is Gadeirydd NFU Cymru Meirionnydd: “Mae hi’n fraint i amaethwyr NFU Cymru ym Meirionnydd gael noddi’r gadair hyfryd yma eleni.
“Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn cael y fraint o weithio’r tir, gwerthfawrogi adnoddau naturiol yr ardal a chyplysu’r cyfan i gefnogi cenhedlaeth nesaf o bobl ifanc yr ardal trwy fudiad yr Urdd.”
‘Mynyddoedd Meirionnydd’
Yn ôl gwneuthurwr y goron, Mari Eluned sy’n rhedeg ei chwmni gemwaith ei hun o’i chartref ym Mallwyd: “Cyfres o flagur arian sy’n amrywio mewn maint sy’n ffurfio’r goron ac, er mwyn dangos y datblygiad o flagur i flodyn, mae blaen y goron wedi ei haddurno gyda chennin pedr.
“Yn ogystal, mae cyfuchliniau mynyddoedd Meirionnydd wedi’u hysgythru i’r arian ac mae’r defnydd gwyrdd, a wehyddwyd o wlân yng Nghymru, yn cyfleu’r bryniau. Mae’r botwm bach sydd ar y corryn yn symbol o gopa mynydd’.
‘Trawiadol’
Noddir y goron gan Undeb Amaethwyr Cymru, ac yn ôl Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol Meirionnydd, “Mae Mari yn artist talentog, ac mae parch mawr i’w gwaith yn lleol ac yn genedlaethol – mae hefyd, wrth gwrs, yn ferch fferm leol o Feirionnydd. Roeddem yn hapus iawn gyda’r cynlluniau bras a gyflwynwyd i ni ar bapur fisoedd yn ôl, ond dim ond ar ôl gweld y goron wedi ei chwblhau ydym ni yn llawn werthfawrogi pa mor drawiadol ydy hi.”
‘Gwobrau teilwng’
Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Mae crefftwyr Meirionnydd yn adnabyddus am eu talent, ac maent wedi llwyddo i greu gwobrau teilwng i unrhyw enillydd.
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw i weld a fydd teilyngdod i’r ddwy gystadleuaeth ddiwedd mis Mai.”
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Meirionydd 2014 ar dir Rhiwlas, Y Bala rhwng 25 a 31 Mai.