Mae erthygl yn y cylchgrawn Llafar Gwlad yn beirniadu clodfori’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Ymhlith erthyglau’r cylchgrawn y mis hwn mae darn am Horatio Herbert Kitchener, y wyneb cyfarwydd sy’n cael ei ddefnyddio i hysbysebu canmlwyddiant dechrau’r rhyfel yn 1914.
Bellach, mae’r ddelwedd o Kitchener yn arwydd eiconig o recriwtio a rhyfela.
Mae cynlluniau ar droed i gynnwys y ddelwedd ar ddarn dwy bunt newydd sy’n cael ei fathu i nodi’r canmlwyddiant.
Yn ôl yr erthygl yn Llafar Gwlad, ymdrech i glodfori, nid cofio’r rhyfel, yw’r darn dwy bunt.
Kitchener oedd pennaeth y fyddin o Brydeinwyr yn Ne Affrica yn Ail Ryfel y Boer ac fe drefnodd garchardai lladd ar raddfa helaeth ar gyfer plant, gwragedd a henoed byddinoedd gerila y Boer.
Yn ôl yr erthygl, doedd dim gofal iechyd ar y safleoedd lle cafodd 28,000 o bobol eu lladd.
Mae’n honni bod y carchardai wedi ysbrydoli Hitler a’r SS yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r erthygl yn Llafar Gwlad yn codi’r cwestiwn a ddylai gwladwriaeth Prydain ddyrchafu Kitchener wrth hyrwyddo Prydeindod yn 2014.