Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r BBC o “danseilio” S4C er mwyn cyfiawnhau toriadau ariannol i’r sianel, yn dilyn sylwadau am ostyngiad yng nghynulleidfa S4C yn ystod yr oriau brig.

Mae cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies wedi mynegi pryder fod gostyngiad o 17% wedi bod yn ffigyrau gwylio’r sianel yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ychwanegodd bod newidiadau, fel cael gwared ag omnibws Pobol y Cwm, am arwain at ostyngiad pellach yn y nifer sy’n gwylio. Fe wnaeth ei sylwadau mewn cyfarfod o Gyngor Cynulleidfa Cymru fis diwethaf.

Ond mae prif weithredwr S4C, Ian Jones, yn dweud fod y ffigyrau yn rhoi “darlun anghyflawn” o wasanaeth S4C.

Yn ôl Greg Bevan, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar ddarlledu, mae’r sylwadau yn rhan o “ymosodiadau sinigaidd” gan y BBC.

Mae’r mudiad yn galw am sefydlu darlledwr Cymraeg aml-gyfryngol newydd sy’n rhydd o’r BBC.

Ymosodiad

“Dyma’r enghraifft ddiweddaraf mewn cyfres o sylwadau sy’n ymddangos fel eu bod yn rhan o batrwm o ymosodiadau sinigaidd gan reolwyr BBC ar S4C a’r iaith Gymraeg,” meddai Greg Bevan .

“Pryderwn nad trwy gyd-ddigwyddiad na damwain y daeth cofnodion y cyfarfod yma i sylw cyhoeddus.

“Ein pryder yw bod y BBC yn trio tanseilio S4C er mwyn cyfiawnhau toriadau pellach i’r sianel yn y dyfodol agos.”

‘Angen cynyddu’r buddsoddiad’

Dywedodd Greg Bevan nad yw’r  gostyngiad yn y ffigyrau gwylio yn adlewyrchu faint sy’n gwylio S4C ar-lein ac felly yn sicr o godi pryderon:

“Ond beth sydd i’w ddisgwyl wedi i’r sianel ddioddef toriadau anferth i’w chyllideb o ganlyniad i’r fargen frwnt a wnaed rhwng penaethiaid y BBC a’r Torïaid yn Llundain yn ôl yn 2010?,” gofynnodd.

“Mae angen cynyddu’r buddsoddiad mewn darlledu Cymraeg, yn hytrach na pharhau gyda thoriadau pellach, fel bod modd i S4C ac eraill fynd â darlledu Cymraeg i blatfformau ar-lein newydd.”

‘Ni allwn ymddiried yn y BBC’

Ychwanegodd Greg Bevan: “Ni allwn ymddiried yn y BBC.

“Fel corfforaeth, mae’r BBC wedi methu â chyflawni dros y Gymraeg mewn sawl maes.

“Mae nifer o unigolion cefnogol iawn i’r iaith wedi gweithio i’r gorfforaeth ac yn gwneud hynny nawr ond gwelwn fod problem strwythurol sy’n atal y BBC rhag datblygu a chynyddu ei gwasanaethau Cymraeg fel y dylai.

“Mae angen sefydlu darlledwr Cymraeg aml-gyfryngol newydd sy’n rhydd o’r BBC.”

‘Darlun anghyflawn’

Wrth ymateb i’r sylwadau dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Rydym mewn trafodaeth gyson gyda’r BBC ynglŷn â’r cwymp yn y niferoedd o wylwyr yn ystod yr oriau brig, sy’n berthnasol iawn o ystyried bod y BBC yn cynhyrchu tua hanner y rhaglenni sy’n llenwi’r oriau hynny ar S4C.

“Dwi’n falch iawn bod natur y berthynas rhyngom yn golygu bod modd i ni weithio gyda’n gilydd i wynebu’r her honno.  Er, dylid nodi bod ffocysu ar un ffordd o fesur perfformiad yn unig (allan o’r 9 mesur perfformiad sy’n cael eu defnyddio gan S4C) yn creu darlun anghyflawn o’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig.

“Rydym yn gyson ein barn bod angen ymateb i ofynion y gynulleidfa wrth gynllunio’n cynnwys.  Yn hyn o beth, mae penderfyniad S4C i beidio â pharhau i ddarlledu omnibws Pobol y Cwm ar brynhawn Sul yn rhyddhau cyllid i’n galluogi i gynllunio amserlen fydd yn boblogaidd gyda’r gynulleidfa.

“Ar yr un pryd, yn wahanol i gynnwys yr adroddiad, byddwn ni’n cadw’n darllediadau gydag isdeitlau ar y sgrin yn ystod yr wythnos, a pharhau i gynnig penodau ar-lein gydag isdeitlau ar gael.

“Mae S4C yn canolbwyntio’n llwyr ar sicrhau bod ein cynnwys yn cwrdd â disgwyliadau pobl Cymru – a’i fod ar gael yn y ffyrdd y mae pobl Cymru’n dymuno gwylio.”

‘Perthynas greadigol gref’

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Mae cofnodion pob cyfarfod o Gyngor Cynulleidfa Cymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor yn dilyn eu cadarnhau yn y cyfarfod dilynol – www.bbc.co.uk/cymru/ccc.

“Mae holl wasanaethau Cymraeg – gan gynnwys rhai’r BBC – wedi wynebu sialensau penodol o ran y gynulleidfa yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae Cyfarwyddwr BBC Cymru wedi bod yn agored iawn ynglŷn â hyn.

“Mae’r cofnodion y cyfeirir atyn nhw heddiw yn adlewyrchu’r drafodaeth a gafwyd fel rhan o arolwg blynyddol Cyngor Cynulleidfa Cymru o raglenni BBC Cymru – gan gynnwys y rhaglenni sy’n cael eu cynhyrchu ar gyfer S4C.”

“Mae timau rheoli S4C a BBC Cymru yn trafod yn rheolaidd er mwyn mynd i’r afael â’r her. Mae llwyddiant Y Gwyll/Hinterland, ailwampio Newyddion 9, yn ogystal â chynlluniau i lansio S4C ar BBC iPlayer yn hwyrach eleni, i gyd yn dangos y berthynas greadigol gref sy’n bodoli rhwng BBC Cymru a S4C.”