Blaenau Ffestiniog
Bydd pymtheg o’r 23 o weithwyr yn chwarel Llechwedd, Blaenau Ffestiniog yn colli eu gwaith dros dro o ddydd Llun ymlaen.

Daeth y gwaith yn Llechwedd i ben rhyw bythefnos yn ôl a hynny am resymau diogelwch, ond mae’r Cynghorydd lleol, Paul Thomas yn gobeithio y bydd yn ail ddechrau cyn bo hir ar dir hen chwarel Maenofferen sy’n eiddo i’r un cwmni sef J.W. Greaves.

“Mi roedd yna bryder mai dyma’i diwedd hi ond mae cwmni Greaves yn eithaf penderfynol i gadw’r chwarel ar agor,” meddai.

“Roedd 19 i fod i gael eu di-swyddo dros dro i ddechrau ond mae Greaves wedi dod o hyd i waith arall i bedwar.

“Y bwriad ydi symud y gwaith i ran arall yn Maenofferen ond mae’n rhaid symud 150,000 o dunnelli o bridd gyntaf er mwyn gweld y lechen a wedyn rhaid asesu ansawdd y graig.

“Bydd hyn yn cymeryd rhyw 6 i 8 wythnos a gobeithio wedyn y bydd y gweithwyr yn cael gwybod y byddan nhw’n cael ail gychwyn gweithio.”

Gobeithiol

Mae cwmni Greaves eisoes yn gwybod bod yna werth 20 mlynedd o lechi yn y rhan newydd ac mae cyfarwyddwr y chwarel, Michael Bewick, yn dweud eu bod yn benderfynol na fydd y chwarel yn dod i ben.

“Rydyn ni’n gwybod bod yna lechi yn Maenofferen oedd yn arfer bod o ansawdd da iawn. Mi fase’r hen weithien yn ddelfrydol ond rhaid i ni archwilio ansawdd y graig,” meddai.

Mae Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio yn agos efo Llechwedd yn ddiweddar ac yn ôl y Cynghorydd Thomas fe fydd cynlluniau i gefnogi ail agor y chwarel yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

“Mae’r Cyngor yn cydnabod pa mor bwysig ydi’r chwarel i economi Blaenau a Meirionnydd ac mi fasa’i cholli yn drychinebus,” meddai.

“Mae’r diwydiant chwareli wedi bod yn gwegian yn y Blaenau ers canrifoedd ac roedd rhywun yn teimlo mai dyma’r hoelen olaf yn yr arch ond mae Greaves wedi ymrwymo i symud y gwaith,” ychwanegodd.

Dwy chwarel sydd yna yn y Blaenau bellach sef Llechwedd a Cwt y Bugail ym Manod.