Wylfa - un o'r ardaloedd dan ystyriaeth
Mae Aelodau Seneddol Dwyfor Meirionydd ac Ynys Môn wedi ychwanegu at y gwrthwynebiad i greu safle wastraff niwclear posib yng Nghymru.

Maen nhw wedi ymateb i’r stori yng nghylchgrawn Golwg fod ardaloedd Trawsfynydd a’r Wylfa ymhlith safleoedd posib sy’n cael eu hystyried ar gyfer storio gwastraff niwclear gwledydd Prydain.

Does dim argymhellion pendant wedi eu gwneud, ac mae nifer o ardaloedd eraill yn y ffrâm hefyd, ond mae’r ddau Aelod Seneddol tros atomfeydd yng Nghymru wedi gwrthwynebu’r syniad.

Na, meddai’r ddau AS

Dywedodd Elfyn Llwyd wrth golwg360 na fyddai’n croesawu gweld safle o’r fath yn dod i ardal Trawsfynydd, gydag Albert Owen hefyd yn erbyn creu claddfa wastraff niwclear ym Môn.

Pythefnos yn ôl y torrodd Golwg y stori fod ardaloedd Wylfa a Thrawsfynydd ymysg y safleoedd posib ac, ers hynny, mae cynghorwyr lleol ac Aelod Cynulliad yr ynys Rhun ap Iorwerth, yn ogystal â Phlaid Cymru, wedi lleisio’u gwrthwynebiad i’r posibilrwydd.

Fe ddywedodd 86% o’r bobol a ymatebodd i bôl piniwn golwg360 na fydden nhw’n croesawu claddfa wastraff niwclear yn eu hardal nhw chwaith.

Ac mae’r ddau Aelod Seneddol nawr hefyd wedi mynnu na fyddai croeso i’r fath safle, fyddai’n storio gwastraff niwclear Prydain am gannoedd o filoedd o flynyddoedd, yn eu hardaloedd nhw.

Na, meddai Elfyn Llwyd

Doedd Elfyn Llwyd, AS Dwyfor Meirionnydd, ddim yn credu y byddai pobol ardal Meirionydd yn awyddus iawn i ystyried y posibiliad o storfa wastraff yn ardal Trawsfynydd.

“Dydw i ddim yn meddwl fod ’na unrhyw awydd o fath yn y byd yn sir Feirionydd a phen yma’r byd i gymryd gwastraff o lefydd eraill,” meddai Elfyn Llwyd.

“Yn gyntaf, pan ddaru’r bobol niwclear benderfynu gwneud cais am ganiatâd cynllunio roedden nhw’n fanwl iawn mai safe store ar gyfer gwastraff Trawsfynydd yn unig fyddai hynny.

“Felly mae newid y syniad rŵan i hyd yn oed trafod mewnforio gwastraff niwclear i mi yn rhywbeth sydd am fod yn amhoblogaidd a chwbl annerbyniol.

“Yn ail, fedr unrhyw un sydd yn gwybod unrhyw beth am y diwydiant niwclear ddim gwadu ei bod hi’n beryg bywyd symud y gwastraff o gwmpas – llawer gwell cadw’r gwastraff lle y mae o [yn Cumbria] a dyna ni.”

Cumbria yw’r ateb – Albert Owen

Mewn datganiad ar ei wefan, dywedodd Albert Owen, AS Ynys Môn, mai cadw’r gwastraff yn Cumbria yw’r ateb saffaf.

“Beth sydd yn amlwg yn yr holl adroddiadau yw nad oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ynglŷn â chael gwared â gwastraff niwclear,” meddai Albert Owen.

“Ar y foment mae gwastraff niwclear yn cael ei storio yn Cumbria a dyna ble y dylai ei gadw. Dydi’r syniad o gludo gwastraff ar draws y wlad ddim yn gwneud unrhyw fath o synnwyr a dyna’r neges byddaf yn parhau i rannu gyda phawb sydd yn rhan o’r broses.”

Mae golwg360 wedi cysylltu ag Albert Owen am ymateb pellach.

Y cefndir

CoRWM, corff sydd yn gysylltiedig â Llywodraeth Prydain, sydd â chyfrifoldeb dros ganfod man priodol ar gyfer y safle i gladdu’r gwastraff ymbelydrol lefel uchel.

Ond byddai unrhyw safle o’r fath yng Nghymru yn gorfod derbyn caniatâd gan Lywodraeth Cymru, gan fod gwastraff niwclear yn fater datganoledig.