Mae trefnydd gwefan i helpu pobol ifanc sy’n galaru yn cynnal noson gyri yn Llanelli heno i godi arian at y prosiect.

Syniad Manon Gravell, merch yr arwr cenedlaethol Ray, yw Prosiect 13, a fydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobol ifanc 12-25 oed sydd wedi colli anwyliaid neu sy’n gofalu am anwyliaid yn ystod cyfnod o salwch.

Mae’r noson yn cael ei chynnal ym mwyty Masala am 7yh heno.

Roedd Manon yn 12 oed a’i chwaer Gwennan yn naw oed pan fu farw eu tad o drawiad ar y galon yn 2007.

Mae Prosiect 13 wedi dechrau rhoi rhestr o gysylltiadau defnyddiol at ei gilydd ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth, a fydd yn cynnwys manylion cyswllt cwnselwyr sy’n helpu pobol mewn galar.

Fe fydd hefyd yn cynnig y cyfle i bobol sydd wedi bod trwy alar gysylltu â’i gilydd ar ffurf rhwydwaith.

Y gobaith yw codi hyd at £5,000 ar gyfer y wefan a fydd yn cael ei lansio erbyn yr haf.

Mae Manon bellach yn fyfyrwraig Nyrsio Plant ym Mhrifysgol De Cymru ac mae hi’n gobeithio helpu pobol ifanc eraill sy’n mynd trwy’r un profiadau â hi.

Yn gynharach eleni, ymddangosodd Manon ar raglen ‘Fi’ ar S4C i drafod ei phrofiadau o golli ei thad.

Dywedodd ei bod hi’n bwysig iddi rannu ei phrofiadau ar y rhaglen, gan fod ganddi gefnogaeth helaeth ac roedd hi’n awyddus i ddangos i bobol ifanc yn yr un sefyllfa fod pethau’n gwella ymhen amser.

Dywedodd ei bod hi’n teimlo bod angen cymorth a chefnogaeth aeddfed ar bobol ifanc oedd yn ceisio deall y broses o alaru.

Pan fydd y wefan yn cael ei lansio, mi fydd yn cael ei monitro’n ofalus, gan gynnig llwyfan i bobol ifanc rannu eu profiadau.

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y prosiect a thocynnau i’r digwyddiad heno am £10 trwy fynd i’r dudalen Facebook neu Twitter.