Dewi Pws
Mae un o ddiddanwyr mwya’ poblogaidd Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn ymddangos eto ar Radio Cymru – oherwydd defnydd yr orsaf o gerddoriaeth Saesneg.
Yn ôl y canwr Dewi Pws, mae’n “torri ei galon” wrth weld yr hyn sy’n digwydd i’r gwasanaeth ac yn galw ar eraill i ddilyn ei esiampl.
“Fydda i ddim yn gwneud dim byd i Radio Cymru nes y byddwn ni’n cael ein gorsaf yn ôl yn hollol Gymraeg,” meddai wrth Golwg360.
Mae Dewi Pws wedi protestio o’r blaen ynglŷn â defnydd o gerddoriaeth Saesneg ac, ers ailwampio amserlen Radio Cymru ym mis Mawrth, mae’r defnydd o ganeuon Saesneg wedi cynyddu, er enghraifft gyda rhaglen Tommo yn y prynhawn.
Safon – nid Saesneg
Yn ôl Dewi Pws, does dim tystiolaeth fod gwrandawyr eisiau cerddoriaeth Saesneg na’u bod nhw’n denu rhagor o gynulleidfa.
“Mae Radio Cymru’n colli gwrandawyr oherwydd safon y rhaglenni,” meddai. “Y ffordd i gael gwrandawyr yw gwella safonau, nid chwarae cerddoriaeth Saesneg.”
Fe fydd ‘streic’ Dewi Pws hyd yn oed yn cynnwys rhaglen Talwrn y Beirdd lle mae’n aelod o dîm llwyddiannus Crannog – fe fydd yn “drist iawn” ynghylch hynny, meddai, ond yn dristach oherwydd y gerddoriaeth Saesneg.
“Gobeithio y bydd pobol eraill yn gwneud yr un peth ac yn gwrthod cymryd rhan ar raglenni Radio Cymru nes y byddan nhw’n newid y polisi,” meddai.
‘Am bob cân Saesneg mae pedair cân Gymraeg’
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “O ran cerddoriaeth Saesneg, yr unig newid yn ystod y dydd mewn gwirionedd yw bod rhaglen Tommo yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Iau yn chwarae oddeutu dwy gân Saesneg bob awr.
“Bwriad y rhaglen yw ceisio denu pobol sydd fel arfer yn gwrando ar nemor ddim cerddoriaeth Gymraeg, ac yn gwrando ar orsafoedd eraill, i droi at Radio Cymru a chael y cyfle i glywed a mwynhau cerddoriaeth a sgwrsio yn Gymraeg.
“Am bob cân Saesneg ar y rhaglen mae pedair cân Gymraeg yn cael ei chwarae. Ac ar draws yr orsaf yn gyfan-gwbl mae mwy o gerddoriaeth Gymraeg i’w chlywed nawr, o’i gymharu â’r hen amserlen.”