Philip Rogers, crwner Abertawe
Mae cwest i farwolaeth sydyn bachgen 15 oed o Abertawe wedi cael ei agor a’i ohirio y bore ‘ma.

Cafwyd hyd i gorff James Lock mewn coedlan gerllaw Ysgol Gyfun Olchfa ar Ffordd Gŵyr yn ardal Sgeti o’r ddinas ddydd Iau diwethaf.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy, ond nid yw Heddlu De Cymru yn credu ei bod yn farwolaeth amheus.

Mewn gwrandawiad deng munud o hyd y bore ‘ma, dywedodd crwner Abertawe Philip Rogers bod y cwest wedi ei ohirio tan 23 Medi.

Mae corff y bachgen wedi cael ei ryddhau i’r teulu er mwyn iddyn nhw wneud trefniadau ar gyfer ei angladd.

Mae merch 17 a gafodd ei harestio yn dilyn sylw ‘ffiaidd’ a wnaed ar Facebook ynghylch marwolaeth y bachgen wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.