Gwefan newydd S4C
Heddiw mae S4C wedi lansio’u gwefan, gan gynnwys gwasanaeth ar-lein Clic, ar ei newydd wedd gyda system newydd sy’n golygu bod modd gwylio cynnwys y sianel ar fwy o declynnau gwahanol.
Mae’r hafan newydd yn cynnwys pigion o rhai o brif raglenni a newyddion y sianel, gyda’r dudalen Clic nawr yn dangos detholiad mwy cryno o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd.
Dywedodd S4C bod gwefan newydd Clic newydd yn system hyblyg fydd hefyd yn addasu ei hun ar gyfer maint y ddyfais sy’n cael ei defnyddio.
Mi fydd hefyd am y tro cyntaf yn caniatáu i wylwyr rannu gwybodaeth am y cynnwys ar rwydweithiau cymdeithasol.
‘Deniadol a modern’
“Rwy’ wedi sôn droeon mai’r ffordd orau o ddiogelu dyfodol darlledu Cymraeg ydi sicrhau fod y cynnwys ar gael drwy ba bynnag ddull mae’r gwylwyr yn dymuno ei ddefnyddio,” meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.
“Mae gwefan Clic yn ganolog i wasanaeth digidol y Sianel ac yn galluogi pobl i ddefnyddio Clic ar fwy o ddyfeisiadau ac ar fwy o blatfformau.
“Mae datblygiadau ym myd technoleg yn ein cadw ni ar flaenau’n traed wrth i’r platfformau a’r dyfeisiadau poblogaidd esblygu.
“Wrth lansio’r Clic newydd, ry ni’n gobeithio y bydd ein gwylwyr yn cytuno fod y wedd newydd yn ddeniadol ac yn fodern, a bod y gwasanaeth yn hawdd i’w defnyddio.
“Mae hyn hefyd yn gam newydd i S4C oherwydd am y tro cyntaf, mae ein gwasanaeth ar-lein wedi arwain delwedd y Sianel gyfan. Mae’n arwydd o’n hagwedd ni wrth edrych i’r dyfodol a chydnabod fod pobl o bob oed yn manteisio ar gyfleoedd y we ar gyfer mynd at gynnwys teledu.”