Y Cymoedd
Mae dyn o’r Cymoedd sydd wedi penderfynu siarad dim byd ond Cymraeg am flwyddyn yn galw ar eraill i ymuno gydag o am wythnos.

Mae Rob Hughes o Beddllwynog, ger Merthyr Tudful, wedi dechrau ar ei sialens i siarad dim byd ond Cymraeg, ar wahân i’r cyfnodau pan mae o yn y gwaith, ers pythefnos.

Roedd wedi cael ei ysbrydoli gan raglen deledu Gwyddeleg ble’r oedd dyn yn ceisio gwneud yr un fath yn Iwerddon gan siarad dim byd ond Gwyddeleg.

Mae Rob Hughes yn cadw cofnod o’i brofiadau ar ei flog: http://blwyddynyngymraeg.wordpress.com/.

Meddai Rob Hughes wrth Golwg360 nad protest wleidyddol yw hyn ond yn hytrach, cael blas ar brofiad nad ydy o wedi’i chael o’r blaen, a phrofi bod y peth yn bosib.

‘Rhy barod i droi at y Saesneg’

Dywedodd ei fod eisiau i bobl eraill rannu’r profiad gydag o am wythnos.

Meddai Rob Hughes: “Dw i am i 49 o bobl rannu’r profiad hwn gyda fi am wythnos. Mae fy mhlant wedi cytuno ymuno a fi am yr wythnos olaf.

“Er ei bod hi’n anodd ar y dechrau, mae rhywun yn datblygu hunan hyder wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaen. Efallai ein bod ni, fel Cymry, yn rhy barod i droi at y Saesneg weithiau.

“Ond y mwyaf ohonon ni sy’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg bob dydd, y mwyaf o swyddi fydd yna i siaradwyr Cymraeg hefyd.

“Os oes diddordeb gennych gadewch nodyn ar fy mlog a byddwn ni’n trio sortio mas wythnos i chi ac ychwanegu eich sylwadau i’r blog,” meddai.