Y stormydd yn Aberystwyth
Mae’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru wedi derbyn hwb o £885,000 yn dilyn gaeaf stormus.
Mae ardaloedd ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru a thref Aberystwyth wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £10 miliwn ar gyfer gwelliannau yn dilyn tywydd garw eleni.
Bydd y Llwybr Arfordirol yn derbyn £545,000 er mwyn atgyweirio’r rhannau a gafodd eu difetha gan y stormydd ym mis Rhagfyr a Ionawr.
Bydd nawdd ar gael i 17 awdurdod yng Nghymru.
Aberystwyth
Bydd tref Aberystwyth hefyd yn derbyn £310,000 yn dilyn difrod sylweddol i’r prom, ac fe fydd mur y môr, goleuadau, rheiliau a chelfi’r stryd yn cael eu trwsio.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt fod Llywodraeth Cymru “am gefnogi cymunedau a gafodd eu taro gan y tywydd gwael yn ddiweddar ym mha bynnag ffordd allwn ni”.
Ychwanegodd ei bod hi’n bwysig “fod pobol yn parhau i ddod i Gymru i fwynhau popeth sydd ganddi i’w gynnig”.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths y bydd y nawdd yn sicrhau bod y Llwybr Arfordirol yn “mynd yn ôl i’r safon mae ymwelwyr â Chymru bellach yn ei ddisgwyl”.
Ychwanegodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant ei bod yn “galonogol gweld sut mae’r gymuned leol [yn Aberystwyth] ac asiantaethau cyhoeddus wedi dod at ei gilydd i herio’r effeithiau hirdymor ar y dref”.
Eisoes, mae Cei Deganwy a Rhyl wedi derbyn nawdd er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw yn barod at y Pasg.