Mae dyn yn y ddalfa wedi digwyddiad honedig yn archfarchnad Tesco ym Mhen-y-bont ar Ogwr neithiwr.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Tesco ar Ffordd Brewery tua 7:30 yr hwyr, yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad y tu allan i’r siop.

Yn ôl adroddiadau roedd y dyn wedi cymryd cyllell o’r archfarchnad ac wedi bygwth pobol y tu allan i’r brif fynedfa.

Cafodd drysau’r siop eu cau ac yn ôl llygad dyst, roedd rhywun oedd yn gwylio’r digwyddiad wedi taclo’r dyn i’r llawr a’i ddal yno nes i’r heddlu gyrraedd.

Dywedodd yr Arolygydd Chris Truscott o Heddlu De Cymru fod dyn 24 oed wedi cael ei arestio.

“Fe alla’ i gadarnhau fod dyn wedi mynd i mewn i’r siop a chymryd cyllell oddi yno cyn i ddigwyddiad gymryd lle y tu allan. Ni chafodd unrhyw un  eu hanafu,” meddai Chris Truscott.