Llygredd awyr yn Llundain
Mae adroddiadau yn dangos fod cynnydd wedi bod yn nifer y galwadau 999, wrth i lefelau llygredd awyr “uchel iawn” barhau i effeithio ar rannau o Brydain.

Roedd cynnydd o 14% yn nifer y galwadau 999 gan gleifion gydag anawsterau anadlu a phroblemau yn ymwneud a’r galon yn Llundain ddoe, yn ôl gwasanaeth ambiwlans y brif ddinas.

Mae Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig, DEFRA, wedi cofnodi’r lefelau llygredd awyr uchaf erioed yn ne ddwyrain Lloegr – sef lefel 10.

Ac yn ôl arbenigwyr, mae’r llygredd awyr bellach wedi lledaenu i rannau o Gymru, gyda lefelau 8 yn cael eu cofnodi mewn ardaloedd yn Sir Y Fflint.

Mae’r llygredd awyr wedi ei greu o gyfuniad o lygredd lleol a chyfandirol yn ogystal â llwch o’r Sahara.

Rhybudd

Dangosodd arolwg gan Asthma UK bod 30% o 532 o bobol wedi dioddef o anawsterau anadlu o ganlyniad i’r llygredd awyr.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobol i gymryd gofal ac mae Fenella Wrigley, dirprwy gyfarwyddwr meddygol y gwasanaeth ambiwlans yn Llundain yn dweud y dylai unrhyw un sy’n dioddef o beswch, gwddf sych neu lygaid coch gysylltu â’u meddyg teulu.