Mae ymgyrch genedlaethol yn cael ei lansio heddiw i geisio atal cleifion rhag marw o glotiau gwaed tra eu bod nhw yn yr ysbyty.

Mae’r ymgyrch – ‘Holwch am Glotiau’ – yn annog cleifion i holi gweithwyr iechyd proffesiynol am eu risg o gael clot gwaed – sy’n cael ei alw’n  thrombosis gwythiennau dwfn – er mwyn iddyn nhw allu cael eu hasesu a chael y driniaeth briodol i’w atal rhag datblygu.

Mae gwaith ymchwil wedi amcangyfrif bod 1,250 o bobl mewn perygl o farw bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd clotiau gwaed a allai ddatblygu tra eu bod nhw yn yr ysbyty.

Caiff yr ymgyrch ei lansio yn sgil y ffaith bod gwaith ymchwil newydd wedi datgelu bod 62% o bobl yng Nghymru yn credu eu bod yn fwy tebygol o gael thrombosis ar awyren nag yn yr ysbyty.

Mewn gwirionedd, gall y risg o gael clot yn ystod cyfnod yn yr ysbyty fod 1,000 gwaith yn uwch na’r risg yn sgil treulio amser ar awyren.

‘Neges bwysig’

“Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos pa mor bwysig yw’r ymgyrch Holi am Glotiau er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon cael thrombosis yn yr ysbyty. Mae’n neges bwysig i gleifion a staff GIG Cymru,” meddai Dr Simon Noble, ymgynghorydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sydd wedi bod yn gweithio gyda 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella i ddatblygu’r ymgyrch.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cysylltu thrombosis â hedfan. Fodd bynnag, mae dwy ran o dair o glotiau gwaed yn digwydd yn yr ysbyty neu yn ystod y 90 diwrnod ar ôl i rywun gael ei ryddhau o’r ysbyty.

“Dyna pam mae mor bwysig i gleifion sydd yn yr ysbyty ofyn am asesiad ar gyfer clotiau gwaed ac i’w teuluoedd hefyd fod yn ymwybodol o hynny a gofyn am asesiad ar eu rhan os bydd angen.

“Bydd Holwch am Glotiau hefyd yn annog ein gweithwyr iechyd proffesiynol i fod yn fwy ymwybodol o’r risgiau a sicrhau bod pob claf yn cael ei asesu. Mae Thrombosis yn gyflwr y gellir ei atal.”

‘Grwpiau risg’

Thrombosis gwythiennol yw pan fydd clot gwaed yn ffurfio y tu mewn i bibell waed, yn y coesau fel arfer, sy’n cyfyngu llif y gwaed a gall fod yn angheuol os bydd yn symud i’r ysgyfaint.

Mae pawb mewn perygl o gael clot – ond mae grwpiau penodol sydd mewn mwy o berygl, sef unigolion sydd:

  • Dros 60 oed
  • Dros bwysau
  • Yn cael triniaeth ar gyfer canser
  • Yn feichiog
  • Yn cael llawdriniaeth ddifrifol
  • Yn gleifion gyda chyflyrau meddygol parhaus

Mae rhywun ddeg gwaith yn fwy tebygol o gael clot pan fydd yn cael ei drin am salwch difrifol mewn ysbyty.  Fodd bynnag, gellid osgoi tua 70 y cant o achosion pe bai mesurau ataliol yn cael eu rhoi ar waith.

Nod yr ymgyrch Holwch am Glotiau yw addysgu cleifion am eu risg a’u hannog i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o leihau thrombosis.

‘Perygl gwirioneddol’

Meddai Dr Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n cefnogi’r ymgyrch a gaiff ei lansio yn y Senedd heddiw: “Mae angen i ni ddangos y perygl gwirioneddol sy’n gysylltiedig â thrombosis, a dyna pam mae’r ymgyrch Holi am Glotiau yn bwysig iawn.

“Mae ganddi’r potensial i achub llawer o fywydau drwy annog cleifion a’u teuluoedd i siarad â meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae’n golygu y bydd mwy o bobl yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt i atal thrombosis.”

Michelle Martin o Wrecsam yn siarad am ei phrofiad hi o golli ei merch 22 oed bedair blynedd yn ôl oherwydd thrombosis: