Huw Lewis
Mae UCAC a Phlaid Cymru wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg Huw Lewis, wedi iddo ddweud ei fod yn “lled groesawu’r” posibilrwydd o ddatganoli tâl ac amodau gwaith athrawon i Gymru.

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC fod y mudiad yn “eithriadol o falch” bod y Gweinidog yn gallu gweld manteision datganoli – a’i fod yn cytuno ag argymhellion y Comisiwn Silk ar y mater.

“Barn UCAC – ac mae’n ymddangos y Gweinidog Addysg hefyd – yw bod system o dâl ac amodau gwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru yn caniatáu i ni ailsefydlu system deg, cyson a rhwydd i’w gweithredu ledled Cymru”, meddai.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau bod y cyfrifoldeb, a’r cyllid sy’n cyd-fynd ag e, yn cael ei ddatganoli cyn gynted â phosib, a’n bod ni’n sefydlu trefn sy’n gweithio er budd system addysg Cymru.”

‘Gwrthod model San Steffan’

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas, byddai datganoli tâl ac amodau athrawon yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru wrthod model arfaethedig San Steffan o dâl rhanbarthol neu leol, a mabwysiadu tâl ac amodau athrawon yn genedlaethol i Gymru.

“Ar hyn o bryd, mae cyflogau athrawon Cymru dan fygythiad oherwydd cynlluniau’r llywodraeth Dorïaidd i gyflwyno tâl rhanbarthol neu leol, a allai arwain at ostyngiad mewn cyflogau yng Nghymru.

“Mae Plaid Cymru eisiau gosod lefel genedlaethol o dâl ac amodau athrawon i Gymru i atal darnio cyflogau athrawon yng Nghymru ac i wneud yn siŵr fod athrawon o safon ym mhob cwr o Gymru.

“Mae’n dda o beth fod Llywodraeth Cymru o’r diwedd wedi cefnogi cynigion Plaid Cymru wedi blynyddoedd lawer o wrthwynebiad ffyrnig.”