David Cameron
Roedd ’na wrthdaro ffyrnig yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan heddiw ar ôl i David Cameron roi’r bai am y “sgandal” yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ar y Blaid Lafur.

Dywedodd y Prif Weinidog y dylai Ed Miliband orchymyn Carwyn Jones i fuddsoddi mwy o arian yn y GIG er mwyn atal y gostyngiad mewn safonau gofal.

Roedd David Cameron yn ymateb i ddatganiad gan Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy David T C Davies a gyfeiriodd at ddynes yn ei etholaeth, Mariana Robson, fel un o “ffoaduriaid y GIG” am ei bod yn ceisio cael yr hawl i gael triniaeth yn Lloegr.

Ymatebodd David Cameron drwy ddweud: “Rydych chi’n iawn i godi’r mater oherwydd mae’r hyn sy’n digwydd yn y GIG yng Nghymru yn sgandal ac mae’r cyfrifoldeb am y sgandal yn llwyr ar ysgwyddau Llywodraeth Lafur Cymru. Nhw oedd wedi gwneud y penderfyniad i dorri gwariant y GIG o 8% yng Nghymru – o ganlyniad nid ydyn nhw wedi cwrdd â thargedau damweiniau ac achosion brys ers 2009.”

“Dwi ddim yn gwybod pam bod Mr Miliband yn chwerthin – nid yw cyflwr y GIG yng Nghymru yn ddoniol.

“Petai ganddo asgwrn cefn fe fyddai’n gafael ym Mhrif Weinidog Cymru ac yn dweud wrtho am ddechrau buddsoddi yn y GIG yng Nghymru.”

Wrth ymateb i’r feirniadaeth dywedodd Carwyn Jones bod hyn yn ymosodiad arall gan y Ceidwadwyr ar Gymru a bod digon o enghreifftiau o gleifion o Loegr yn dod i Gymru i gael triniaeth a bod y system yn gweithio’n dda. Ychwanegodd y dylai’r Prif Weinidog ganolbwyntio mwy ar y sgandal yn y GIG yn Lloegr yn hytrach na beirniadu’r GIG yng Nghymru.