Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos “tystiolaeth glir” i gyfiawnhau’r bwriad i  wahardd e-sigarets mewn mannau cyhoeddus dan do, gan ddweud y byddai’n tanseilio ymdrechion pobol sy’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones mai gwahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant ddylai fod yn flaenoriaeth i’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn heddiw yn amlinellu cynnig i wahardd e-sigarets dan do a gosod isafswm ar bris alcohol – mewn ymdrech i wella iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

Cymru fyddai’r wlad gyntaf ym Mhrydain i osod y gwaharddiad os byddai’r cynnig yn cael ei basio.

Ond cred Plaid Cymru  bod e-sigarets yn cael eu defnyddio yn helaeth gan bobol sy’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu, a bod rhaid gofalu rhag amharu ar nifer y bobol sy’n eu defnyddio oherwydd hynny.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld tystiolaeth glir ar yr angen i wahardd e-sigarets mewn mannau cyhoeddus ac mae angen i’r Gweinidog gyflwyno hyn i ni,” meddai Elin Jones.

Ychwanegodd: “Mae Plaid Cymru wedi bod o blaid gwahardd ysmygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol, a dylai hyn fod yn flaenoriaeth i’r Gweinidog Iechyd. Mae llawer iawn o dystiolaeth feddygol fod ysmygu mewn ceir yn niweidiol iawn i blant, a dylai’r Gweinidog fod yn trin hyn fel blaenoriaeth.”

Isafswm ar bris alcohol

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r mesurau i osod isafswm ar bris alcohol ond yn credu na fydd yn effeithio’r dosbarth canol, “sydd ddim yn poeni gymaint am brisiau”.

“Mae tystiolaeth yn dangos mai rhai mewn swyddi proffesiynol a rheolaethol sy’n gorddefnyddio alcohol fwyaf, ac nid ydyn nhw’n poeni gymaint am brisiau o’i gymharu â grwpiau cymdeithasol eraill,” meddai Elin Jones.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael a’r gorddefnydd o alcohol ar draws y sbectrwm cymdeithasol, yn hytrach na dibynnu ar isafswm pris i ddatrys y broblem gynyddol hon.”