Senedd yr Alban
Byddai tynnu Aelodau Seneddol Yr Alban allan o San Steffan ar ddiwrnod cyhoeddi canlyniad y refferendwm ar annibyniaeth yn hytrach nag aros tan fis Mawrth 2016 yn arbed cryn dipyn o arian.

Dyna neges Aelod Seneddol yr SNP, Angus MacNeil, sy’n dadlau y dylai etholaethau San Steffan yn Yr Alban gael eu diddymu ar ddiwrnod cyhoeddi’r canlyniad.

Dywed MacNeil y byddai ei gynnig yn arbed £50 miliwn i drethdalwyr.

Mae’n galw ar senedd Yr Alban a San Steffan i gydweithio er mwyn cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd.

Mae ei gynnig wedi’i gefnogi gan Elfyn Llwyd, Hywel Williams a Jonathan Edwards o Blaid Cymru, yn ogystal ag Angus Robertson, Pete Wishart, Mike Weir ac Eilidh Whiteford o’r SNP.

Mae dau aelod Ceidwadol, David TC Davies ac Andrew Percy hefyd yn cefnogi’r cynnig, ynghyd ag Aelod Seneddol y Blaid Werdd, Caroline Lucas.

Mae Angus MacNeil wedi gofyn am ail ddarlleniad i’r cynnig ar Fehefin 6.

Ond byddai angen cefnogaeth Llywodraeth Prydain cyn y gallai ddod yn ddeddf.

Bydd y refferendwm ar annibyniaeth yn cael ei gynnal ar Fedi 18, a phe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, fe allai weithredu fel gwlad annibynnol o Fawrth 24 ymlaen.