Fe fydd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yng ngogledd Cymru, Aled Roberts yn galw am wella’r cyswllt rheilffyrdd rhwng gogledd Cymru a Lloegr heno.

Yn ystod trafodaeth yn y Cynulliad, mae disgwyl iddo fynnu bod gogledd Cymru’n cael ei hanwybyddu wrth i wasanaethau sy’n gwella’r cyswllt rhwng trefi yn Lloegr ddatblygu ymhellach.

Mae disgwyl iddo ddweud bod rhannol ddyblu’r llinell rhwng Wrecsam a Chaer wedi codi amheuon am sut y bydd Cymru’n elwa o welliannau yn Lloegr.

Mae’n awyddus i sicrhau bod y llinell rhwng Yr Orsedd a Wrecsam yn cael ei ddyblu hefyd er mwyn creu gwasanaeth mwy cyflawn a fyddai’n golygu rhoi chwe thrên ychwanegol ar y cledrau.

‘Andwyol i dwf economi’r gogledd’

Mae yna bryderon y gallai gogledd Cymru gael ei hanwybyddu tra bod cynllun HS2 yn Llundain a gwasanaeth rhwng trefi gogledd Lloegr yn cael eu datblygu.

Fe fydd Aled Roberts yn dweud yn ei araith: “Rwy’n bryderus y bydd Cymru’n cael ei gadael allan o’r datblygiadau rheilffyrdd arfaethedig yn Lloegr ac yn cael ei hanwybyddu.

“Heb welliannau, fe fydd twf busnes a chyflogaeth yn hepgor Cymru.

“Byddai hyn yn andwyol i dwf economi gogledd Cymru.”

Mae disgwyl i Aled Roberts draddodi’r araith am 6.30yh yn y Cynulliad, ac fe fydd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart yn ymateb i’r pwyntiau sy’n cael eu trafod.