Nid yw ymateb yr heddlu i gwynion o drais yn y cartref yn ddigon da ac mae angen i heddluoedd gymryd camau brys i wella’r system.

Dyma sy’n cael ei ddweud mewn adroddiadau gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) yn dilyn arolwg o 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Dywed yr adroddiad fod HMIC wedi darganfod gwendidau ‘dychrynllyd’ ac ‘annerbyniol’ wrth i rai heddluoedd ymateb i ddioddefwyr trais yn y cartref, ac nad oes gan swyddogion yr agwedd gywir, y wybodaeth, na’r sgiliau sydd ei angen i ddelio gyda thrais yn y cartref yn effeithiol.

Cafodd Heddluoedd y De a Dyfed-Powys eu canmol gan HMIC, ond mae’r adroddiad yn nodi gwendidau penodol ar gyfer heddluoedd  Gogledd Cymru a Gwent.

Prif argymhelliad yr adroddiad yw bod ymdrech genedlaethol newydd i ddelio hefo trais yn y cartref yn cael ei lansio, gyda phob llu heddlu yng Nghymru a Lloegr yn paratoi cynllun gweithredu erbyn mis Medi 2014.

Heddlu Gogledd Cymru a Gwent

Yn ôl yr adroddiad, does gan Heddlu Gwent ddim polisi trais yn y cartref na chanllawiau ar sut i adnabod ac ymateb i achosion o’r fath.

A’i ymlaen i ddweud bod Heddlu’r Gogledd yn ymateb yn dda i achosion lle mae dioddefwyr yn wynebu risg uchel o niwed, ond nid yw’r gwasanaeth gystal i’r rhai sydd ag asesiad risg isel.

Roedd pryder yn cael ei nodi am y ddau lu nad oes cynllun yn ei le i sicrhau cysondeb wrth adnabod dioddefwyr neu droseddwyr cyson a bod diffyg dealltwriaeth o ystyr y term ‘trais yn y cartref’.

Heddlu’r De a Dyfed Powys

Fe ddywedodd HMIC bod gwasanaethau da yn eu lle i ddelio gyda thrais yn y cartref yn Ne Cymru a’u bod yn cadw dioddefwyr yn ddiogel.

Er hyn, roedd HMIC yn poeni bod llwyth gwaith yr uned arbenigol yn ormod. Roedd Heddlu De Cymru yn ail ar y rhestr o’r lluoedd â’r nifer uchaf o gyhuddiadau.

Roedd yr adroddiad yn canmol Heddlu Dyfed Powys, gan ddweud bod taclo trais yn y cartref yn flaenoriaeth, a hynny’n cael ei adlewyrchu ar draws y sefydliad.

Fodd bynnag, mae diffyg dealltwriaeth ymysg staff am ystyr y term ‘trais yn y cartref’ ac nid ydyn nhw wedi derbyn hyfforddiant penodol ers nifer o flynyddoedd.

‘Neges lem’

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Christopher Salmon: “Er bod yr adroddiad yn dweud y gall pobol yn Nyfed Powys fod a hyder yn yr heddlu, mae’r neges gyffredinol i heddluoedd yn un lem. Mae’n rhaid i ni wella’r system i ddioddefwyr trais yn y cartref.

“Fe fyddwn ni’n ystyried yr adroddiad yma yn ofalus er mwyn sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffyrdd o wella ymateb yr heddlu.”

Ffeithiau

Mae trais yn y cartref yn costio £15.7 biliwn y flwyddyn i’r gymdeithas.

Cafodd 77 o ferched eu lladd gan eu partneriaid neu eu cynbartneriaid yn 2012/13.

Ym Mhrydain, mae un  o bob pedwar person ifanc, o 10 i 24 oed, wedi rhoi gwybod i’r heddlu eu bod wedi dioddef o drais yn y cartref yn ystod eu plentyndod.

Ar gyfartaledd, mae heddluoedd yn derbyn galwad brys am achos o drais yn y cartref bob 30 eiliad.

Gellir gweld yr adroddiad yn llawn yma: http://www.hmic.gov.uk/wp-content/uploads/2014/03/improving-the-police-response-to-domestic-abuse.pdf