Edwina Hart
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart am nad yw hi’n gwybod beth yw cynnwys adroddiad ei phlaid ei hun am drydaneiddio rheilffyrdd.

Pan ofynnodd Eluned Parrott iddi am fanylion cynlluniau’r Llywodraeth Lafur, dywedodd Edwina Hart nad oedd modd iddi ateb y cwestiwn cyn edrych ar y ddogfen.

Ychwanegodd nad oedd ganddi gopi wrth law.

‘Anghredadwy’

Dywedodd Eluned Parrott ei bod hi’n “anghredadwy” nad oedd Edwina Hart yn gwybod beth oedd polisi ei phlaid ei hun.

Meddai: “Mae’r cynllun busnes hwnnw’n glir iawn: mae’n amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru’n arbed arian yn y tymor hir ar gostau rhedeg is a refeniw uwch ar gyfer Rheilffyrdd y Cymoedd sydd wedi’u trydaneiddio, ac mae’n ystyried benthyciadau £30 miliwn y flwyddyn Llywodraeth Cymru.”

‘Hapus i roi’r bai ar Lundain’

Dywedodd Eluned Parrott fod Edwina Hart wedi gwneud “gormod o ddatganiadau cyffredinol ag iddyn nhw ychydig iawn o wybodaeth am y manylion”.

Ychwanegodd: “Mae Llywodraeth Lafur Cymru’n hapus i roi’r bai ar Lundain, ond dydyn nhw ddim yn gallu ateb cwestiynau syml am y cynllun busnes y gwnaethon nhw ei gynhyrchu, ei lofnodi a’i gyflwyno i Lundain.

“Does dim syndod y bu cymaint o ddryswch os mai dyma yw dulliau gweithredu gweinidogion Cymru.”

Galwodd am drafodaethau er mwyn cyflwyno’r cynlluniau cyn gynted â phosib.