Mae adroddiad gan Gomisiwn Holtham wedi dweud bod angen newid hinsawdd wleidyddol Cymru cyn y bydd modd ei thrawsnewid.

Yn yr adroddiad ar nawdd tecach i Gymru, dywed yr awdur Gerald Holtham fod angen i Lywodraeth Lafur Cymru gyflwyno dulliau mwy cystadleuol i’r broses etholiadol er mwyn sicrhau rhagor o bwerau.

Mewn erthygl a gafodd ei lunio ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd Gerald Holtham fod y cyhoedd yng Nghymru’n credu “nad yw’r llywodraeth ddatganoledig wedi llwyddo i newid pethau pwysig er gwell.”

Ychwanegodd y byddai lefel craffu a dadleuon ar berfformiad Llywodraeth Cymru’n gwella pe bai’r gweinidogion yn cael eu herio gan aelodau eraill y blaid.

‘Diflas’

Dywedodd: “Mae gwleidyddiaeth Cymru ychydig yn hawdd ei broffwydo ac ychydig yn ddiflas.”

Ychwanegodd fod rhaid i’r Blaid Lafur “ddarparu ei wrthwynebydd ei hun i ailgynnau diddordeb gwleidyddol”.

Galwodd yn yr adroddiad am etholaethau aml-aelod er mwyn annog dadleuon mwy tanbaid, ac i newid y drefn yng Nghymru.

Comisiwn Silk

Wrth drafod argymhellion Comisiwn Silk ar bwerau deddfu i Gymru, dywed Gerald Holtham yn yr adroddiad fod angen i’r hinsawdd wleidyddol newid cyn y bydd modd eu cyflwyno.

“Mae’n bosib y bydd angen dangos bod barn y cyhoedd yng Nghymru’n gofyn yn ddiwyd am newid er mwyn sicrhau newid o du San Steffan.

“Ond dydy barn y cyhoedd ddim fel pe bai wedi newid ers dros ddegawd i dderbyn y Cynulliad Cenedlaethol yn llawn.

“Ond fy argraff i yw bod y cyhoedd yn ei weld fel tîm pêl-droed Cymru: rydyn ni’n falch bod gennym un, fel gwledydd eraill, er bod ychydig iawn ohonom yn mynd i’r gemau.

“Ac o ystyried rhai o’r canlyniadau, dydy e ddim fel pe bai’n perfformio’n dda iawn.”

Ychwanegodd y byddai mwy o bobol yn dangos diddordeb pe bai’r Cynulliad yn perfformio’n well.

Wrth gloi’r adroddiad, awgrymodd y dylai Cymru fynd yn ôl at argymhellion Comisiwn Richard ynghylch pwerau deddfu cyn dechrau mynd i’r afael ag argymhellion Comisiwn Silk.