Mae dros 70% o’r rheiny a bleidleisiodd ym mhôl piniwn golwg360 wedi dweud na ddylai Radio Wales fod wedi cynnal trafodaeth ar yr iaith Gymraeg yn gynharach yn yr wythnos.

Ddydd Llun fe fu rhaglen Morning Call Oliver Hides yn trafod y pwnc, yn dilyn beirniadaeth ar gyfryngau cymdeithasol gan weithiwr siop yng Nghaerdydd fod cwsmeriaid yn siarad Cymraeg.

Ond wrth hyrwyddo’r rhaglen fe drydarodd Radio Wales gan holi gwrandawyr: “Does the Welsh language irritate you? Why?”, gan gythruddo rhai – er fod y BBC bellach wedi cyfaddef fod y trydariad wedi’i “eirio’n wael”.

Ac mae’n ymddangos fod 72% o’r rheiny a bleidleisiodd yn cytuno â’r safbwynt a fynegodd rhai ei bod hi’n siomedig fod gwerth yr iaith hyd yn oed yn destun trafod.

Yn ôl 26% fodd bynnag roedd gan Radio Wales berffaith hawl i gynnal trafodaeth ar y Gymraeg – tra bod 3% ddim yn siŵr.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Fe gododd nifer o bobl bryderon ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â’r drafodaeth hon ar ddechrau’r wythnos, gyda rhai’n gresynu pa wlad arall yn y byd fyddai’n cwestiynu gwerth ei hiaith yn y fath fodd – ac mae’n ymddangos fod mwyafrif darllenwyr golwg360 o’r un farn hefyd.

Ond fel mae rhai wedi awgrymu, mae dwy ddadl yn codi yma. Y cwestiwn cyntaf, gafodd ei ofyn yn ein pôl ni, oedd a ddylai’r drafodaeth fod wedi cael ei chynnal yn y lle cyntaf. Yr ail, na chafodd ei ofyn, yn holi a oedd tôn y drafodaeth a’r cwestiwn gafodd ei ofyn gan Radio Wales yn briodol.

Felly mae’n eithaf posib fod rhai o’r farn ei bod hi’n ddigon teg cynnal trafodaeth ar yr iaith Gymraeg, ond yn yr achos yma nad oedd hi wedi cael ei wneud mewn modd teg – a bod rhai o’r rhain wedi mynegi’u hanfodlonrwydd tuag at Radio Wales yn y pôl.

Teg dweud felly fod llawer yn anhapus â Radio Wales am ddarlledu’r drafodaeth (er, rhaid cydnabod mai’r trydariad ac nid y drafodaeth ei hun yr oedd llawer yn ei gyhuddo o fod yn anghytbwys).

Ond a yw’n golygu na ddylid cwestiynu gwerth y Gymraeg ar gyfryngau cyhoeddus o gwbl, rhag ofn ei thanseilio? Efallai nad yw’r farn cweit mor unfrydol ar y ddadl honno.

Canlyniadau

A ddylai Radio Wales fod wedi cynnal trafodaeth ar yr iaith Gymraeg?

Dylen – 25.64%

Na ddylen – 71.79%

Ddim yn siŵr – 2.56%

Nifer y rhai a bleidleisiodd – 117