Mae angen i Gyngor Gwynedd ddod o hyd i £50 miliwn ychwanegol yn ystod y pedair blynedd nesaf, yn ôl un o aelodau cabinet y cyngor.

Dywedodd Peredur Jenkins wrth y Daily Post fod disgwyl toriadau sylweddol rhwng nawr a 2017/18.

Hyd yma, dydy’r Cyngor ddim wedi cyflwyno cynllun toriadau ac maen nhw wedi llwyddo i ad-drefnu eu gwariant trwy leihau nifer yr uwch-swyddogion, gwella gweithdrefnau a gwneud gwaith ar adeiladau er mwyn lleihau biliau ynni.

Yn ôl y papur newydd, mae Peredur Jenkins wedi galw am arbed £21.8 miliwn trwy wella’r ffordd mae’r cyngor yn darparu gwasanaethau lleol.

Mae’r cyngor eisoes yn datblygu cynllun i arbed £6.5 miliwn cyn 2017/18, bydd gweithgor yn craffu arno yn y dyfodol.

Gallai cabinet y cyngor gymeradwyo’r cynlluniau erbyn yr hydref.

‘Penderfyniadau anodd’

Dywedodd Peredur Jenkins wrth y Daily Post: “Tra gall trigolion fod yn sicr y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i amddiffyn gwasanaethau allweddol, mae penderfyniadau anodd dros ben o’n blaenau y bydd eu heffeithiau’n bellgyrhaeddol i wasanaethau lleol yng Ngwynedd.

“Mae graddau’r dasg o’n blaenau – pontio diffyg nawdd o £50 miliwn – yn golygu bod rhaid i ni fod yn realistig a chydnabod na fydd arbedion effeithlonrwydd ar eu pen eu hunain ddim yn ddigon ac y bydd torri gwasanaethau a chodi treth y cyngor ymhellach hefyd yn angenrheidiol.”