Mae 300 o ysgolion yng Nghymru ynghau heddiw a 400 wedi’u cau yn rhannol oherwydd streic gan athrawon ynglŷn â’r ffrae am gyflogau ac amodau gwaith.
Mae’r streic, yng Nghymru a Lloegr, wedi cael ei threfnu gan undeb athrawon yr NUT.
Ond mae’r Adran Addysg wedi condemnio’r streic gan ddweud y bydd yn amharu ar rieni ac addysg plant.
Mae’r gweithredu diwydiannol gan yr NUT yn canolbwyntio ar dri pheth sef newid i gyflogau, pensiynau a phwysau gwaith.
Yn ôl yr undeb mae’r streic o ganlyniad i fethiant Llywodraeth San Steffan i gydnabod effaith andwyol eu polisïau ar y sector.
‘Dim dewis ond streicio’
Dywedodd Ysgrifennydd yr NUT yng Nghymru, David Evans eu bod wedi ystyried yn ddwys cyn cynnal streic.
“Roedd yr undeb wedi canslo streic ym mis Tachwedd y llynedd ac eto ym mis Chwefror er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i ddatrys yr anghydfod.
“Mae aelodau’r undeb hefyd wedi bod yn trafod gyda rhieni ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf i esbonio pam ein bod ni’n gorfod cymryd y cam yma. Mae’r ymateb yn awgrymu bod cyfran helaeth o’r cyhoedd yn rhannu ein pryderon.
“Yn anffodus mae athrawon ar draws Cymru yn teimlo nad oes ganddyn nhw lawer o ddewis.”
Dywedodd bod newidiadau sydd wedi eu cyflwyno yn ei gwneud yn anoddach i ddenu a chadw’r athrawon disgleiriaf yn y proffesiwn.
“Nid yw hyn yn gwneud dim i godi safonau mewn ysgolion,” meddai. “Mae’r streic nid yn unig yn ceisio cael y gorau i athrawon ond yr hyn sydd orau i ddisgyblion hefyd ac mae’r ddau beth yn mynd law yn llaw.”
‘Amharu ar rieni a phlant’
Dywedodd Adran Addysg San Steffan “y bydd rhieni yn ei chael yn anodd” i ddeall pam bod yr NUT yn parhau gyda’u streic.
“Roedden nhw wedi galw am drafodaethau er mwyn osgoi streic, fe wnaethon ni gytuno i’w cais ac mae trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal yn wythnosol,” meddai llefarydd.
“Er gwaetha hyn, mae’r NUT yn gweithredu gan amharu ar fywydau rhieni ac addysg eu plant a niweidio enw da’r proffesiwn.”
Roedd yr Ysgrifennydd Addysg Michael wedi ysgrifennu at arweinwyr undebau ddoe yn amlinellu’r cynnydd mae e’n credu sydd wedi bod yn y trafodaethau rhwng yr Adran Addysg a’r undebau athrawon.
Yn y llythyr, mae’n tanlinellu ei ymrwymiad i’r trafodaethau. Ond yn ôl yr NUT mae’r llythyr yn dangos cyn lleied o gynnydd sydd wedi bod yn y trafodaethau.
Mae’r anghydfod rhwng yr NUT a’r Llywodraeth wedi parhau ers mwy na dwy flynedd ac mae cyfres o streiciau wedi cael eu cynnal.