Fe fydd y ffordd mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans ac unedau damweiniau ac achosion brys yn cael eu monitro a’u mesur yn newid yn sylweddol o fis Ebrill.
Bydd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn cyhoeddi heddiw y cyntaf mewn cyfres o dargedau iechyd newydd, sy’n canolbwyntio ar y claf.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y mesurau newydd hyn – y rhai cyntaf i ganolbwyntio ar ganlyniadau clinigol y mae cleifion yn eu cael o’u triniaeth – yn cael eu datblygu ochr yn ochr â thargedau traddodiadol y Gwasanaeth Iechyd (GIG), sy’n canolbwyntio’n unig ar yr amser mae’n ei gymryd i gleifion gael eu triniaeth.
Mae clinigwyr wedi mynegi eu pryder ynghylch y ffordd y mae targedau cyfredol y GIG yn canolbwyntio’n annigonol ar ganlyniadau i gleifion, ac y gall y rhain arwain at annog cyflawni targedau nad ydyn nhw bob amser er lles y claf.
Galwadau 999
Cafodd yr amser ymateb presennol o wyth munud ar gyfer galwadau categori A ei greu 40 mlynedd yn ôl. Mae astudiaethau clinigol wedi dangos nad yw gosod targed o wyth munud yn y rhan fwyaf o achosion brys yn gwneud unrhyw wahaniaeth amlwg i ganlyniadau’r claf, yn ôl Mark Drakeford.
“Fodd bynnag, yn achos rhai cyflyrau lle mae bywyd y claf yn y fantol – er enghraifft trawiad ar y galon a strôc – mae cysylltiad uniongyrchol rhwng ymateb cyflym i achos brys a siawns y claf o oroesi,” meddai.
Ychwanegodd: “Bydd y targedau newydd hyn rydyn ni’n gobeithio’u datblygu ac sy’n canolbwyntio ar y claf yn anelu at fesur yr ymateb brys o’r adeg pan fydd rhywun yn galw 999 i ddechrau’r driniaeth glinigol effeithiol. Yn achos claf sydd wedi cael trawiad ar y galon, gall hyn ddigwydd pan fydd parafeddygon hyfforddedig yn rhoi cyffuriau chwalu ceulad iddo cyn cyrraedd yr ysbyty.”
Bydd targedau newydd hefyd yn mesur gofal cleifion sydd wedi dioddef strôc neu doriad i asgwrn y glun cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty pan fyddan nhw’n ffonio 999.
‘Mwy o bwyslais ar y driniaeth’
O ran adrannau damweiniau ac achosion brys, mae’r targedau presennol yn rhoi mwy o bwyslais ar amser nag ar y gofal a gaiff y claf yn yr adran – mae gofyn bod 95% o’r cleifion yn cael eu gweld a’u trin o fewn pedair awr, meddai’r Llywodraeth.
Bydd y mesurau newydd yn golygu treialu cynllun sy’n seiliedig ar flaenoriaeth glinigol a chynllun arall sy’n seiliedig ar yr amser sy’n rhaid aros wedi cyrraedd yr ysbyty i ddechrau’r driniaeth.
Dywedodd Mark Drakeford: “Dwi am inni farnu llwyddiant ein gwasanaethau drwy fesur beth sy’n gwneud gwahaniaeth i gleifion a pha mor effeithiol yw’r driniaeth a gânt.
“Bydd y gwaith datblygu hwn yn sicrhau bod yr hyn rydym yn ei fesur yn fwy ystyrlon o ran budd clinigol a chanlyniadau i gleifion, yn hytrach na phrydlondeb yn unig.
“Fel yr eglurodd adolygiad McLelland, mae’r amser targed o wyth munud i ambiwlansys yn ffigur mympwyol mewn sawl ffordd yn hytrach na bod yn seiliedig ar angen y claf neu dystiolaeth glinigol.
“Byddwn yn rhannu canlyniadau’r gwaith datblygu’n eang ac yn cynnal trafodaethau cyhoeddus ar y canfyddiadau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am fesurau’r dyfodol.”
Mesurau newydd ar gyfer canser
Mae’r mesurau newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a bydd y mesurau newydd yn rhedeg ochr yn ochr â thargedau presennol y GIG a fydd yn galluogi monitro perfformiad yn erbyn mesurau cyfredol.
Mae mesurau newydd ar gyfer canser a gofal wedi’i gynllunio hefyd yn cael eu datblygu i’w cyflwyno’n ddiweddarach eleni, meddai Mark Drakeford.
Dywedodd swyddog arweiniol clinigol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal heb ei drefnu, Dr Grant Robinson: “Byddwn yn gweithio gyda chlinigwyr i ddatblygu mesurau gofal brys sy’n gwneud synnwyr i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn ac sy’n rhoi synnwyr mwy clir o ansawdd gofal.
“Fel mesurau diogelu ac ansawdd eraill yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod y rhain ar gael yn dryloyw i bobl er mwyn iddynt allu gweld yn hawdd sut mae eu gwasanaeth iechyd lleol yn cyflawni ei waith.”