Llys Ynadon Caerdydd
Mae dyn 28 wedi mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn ardal Grangetown yn y ddinas.

Mae Gareth  Wyn Jones wedi’i gyhuddo o lofruddio David Alun Lewis nos Fercher, 19 Mawrth.

Roedd David Lewis, 45 oed, o Ystrad Mynach wedi dioddef anafiadau lluosog. Cafwyd hyd i’w gorff ar lan Afon Taf o dan bont Penarth yn Grangetown nos Fercher diwethaf ar ôl i’r heddlu dderbyn galwad anhysbys o giosg ffon ar Heol Clare, Grangetown toc cyn hanner nos.

Mae archwiliad post mortem wedi dod i’r casgliad bod angen cynnal rhagor o brofion i geisio darganfod achos ei farwolaeth.

Roedd wedi cael ei weld diwetha’ ar gamerâu cylch cyfyng tua 7.45 nos Fercher ar Ffordd Penarth yn ardal Grangetown heb fod ymhell o’r bont tros afon Taf yn agos at y garej BMW sydd yno.

Yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw fe wnaeth Gareth Wyn Jones gadarnhau ei enw ond ni gyflwynodd ple i’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.