Nikitta Grender
Fe ddaeth tyrfa o 500 i angladd Nikitta Grender yng Nghasnewydd heddiw, i dalu’r deyrnged olaf i’r ferch feichiog o’r ddinas a gafodd ei llofruddio fis yn ôl.

Roedd ei chariad 18 oed, Ryan Mayes, a’i thad, Paul, ymysg y rhai a oedd yn cludo’r arch yn y gwasanaeth yn eglwys St John’s.

Roedd llawer o’r galarwyr yn gwisgo’r lliw pinc o barch at Nikitta oedd yn feichiog pan laddwyd. Roedd hi wedi bwriadu galw’i phlentyn yn Kelsey-May.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i’r ferch ifanc wedi’i thrywanu i farwolaeth yn ei llofft oedd wedi llosgi ym Mharc Broadmead, Liswerry, Casnewydd, Chwefror 5.

Fe ddywedodd y Parchedig Helen Hall, a oedd yn cynnal y gwasanaeth mai cyfle “swyddogol i ddweud ffarwel” oedd yr angladd.

Fe ddisgrifiodd Nikitta Grender fel merch ifanc “llawn bywyd”.

“Roedd gan Nikitta a Kelsey-May bopeth o’u blaenau. Roedd cymaint y gallen nhw fod wedi’i wneud”.