Mae’r Gweinidog Amaeth a Materion Gwledig, Elin Jones, wedi cyflwyno mesur newydd ar gyfer difa moch daear heddiw.

Y bwriad yw bwrw ymlaen â difa moch daear yng ngogledd Sir Benfro cyn hir mewn ymgais i fynd i’r afael â phroblem TB mewn gwartheg yng Nghymru.

Ar ôl i’r cynllun gwreiddiol gael ei atal gan her gyfreithiol gan yr Ymddiriedolaeth Môch Daear y llynedd, mae’r mesur wedi ei ail-lunio erbyn hyn.

Mae’r mesur newydd yn deillio o becyn a ddatblygwyd dros y tair mlynedd ddiwethaf, sy’n cynnwys dulliau gwyliadwraeth a rheoli clefydau, cysylltu iawndal ag arferion da, profion gorfodol ar anifeiliaid, a gweithredu ar lefel rhanbarthol.

“Ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i’r dystiolaeth a gyflwynwyd i mi,” meddai Elin Jones, “rydw i wedi penderfynu rhoi deddfwriaeth ar waith a fydd yn golygu y gall y llywodraeth arwain yn y gwaith o ddifa moch daear yn yr Ardal Driniaeth Ddwys.”  

‘Cam cyntaf ymlaen’

Yn ôl Brian Walters o Undeb Amaethwyr Cymru, mae hwn yn “gam cyntaf ymlaen at ostwng TB mewn gwartheg, mewn ardal sydd ag un o’r lefelau uchaf o’r clefyd yn Ewrop.”

Mae NFU Cymru hefyd wedi canmol y Gweinidog Amaeth am gymryd “y camau cywir” i waredu’r clefyd mewn gwartheg.

“Rydyn ni eisioes wedi cyflwyno’r dulliau rheoli gwartheg a bio-ddiogelwch sydd eu hangen,” meddai Is-Lywydd NFU Cymru, Stephen James, “ac heddiw mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi’r darnau diwethaf yn y jig-so wrth gynnwys mesurau newydd i ddelio â TB.”

Gwrthwynebiad

Ond mae rhai yn dal i wrthwynebu’r cynlluniau.  

Yn ôl arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Jake Girffiths, mae Llywodraeth y Cynulliad “yn mynd yn erbyn barn arbenigwyr sy’n parhau i ddangos nad difa moch daear yw’r ffordd orau i reoli TB mewn gwartheg.”

Mae’r Blaid Werdd yn galw am frechu moch daear, fel sy’n digwydd yn Stroud yn Lloegr.

“Mae astudiaethau’r Cynulliad ei hun,” meddai Jake Griffiths, wedi dangos y byddai difa yn ddim mwy effeithlon na rhaglen frechu.”

Bydd y mesurau a gyflwynwyd heddiw yn cynnwys dwy elfen newydd, sef canolbwyntio’r gwaith difa moch daear ar ogledd Sir Benfro, ac ymestyn y profi gorfodol, a’r system iawndal sy’n berthnasol i wartheg, i anifeiliaid fel geifr a cheirw.