Mae Mentrau Iaith Cymru yn galw am bron dreblu’r arian y maen nhw’n ei gael gan Lywodraeth Cymru.

Mae hynny’n angenrheidiol, medden nhw, er mwyn sicrhau bod Strategaeth Iaith Gymraeg y Llywodraeth yn cael ei gwireddu’n llawn.

Ar hyn o bryd, mae’r 22 menter yn derbyn £1.7 miliwn y flwyddyn gan y Llywodraeth ond maen nhw eisiau i hynny godi i £4.8 miliwn yn y dyfodol.

Dyna fyddai’n “lefel realistig” o arian yn ôl Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, Penri Williams, wrth iddyn nhw ymateb i adroddiad ar waith y Mentrau gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cysoni

Yn ôl aelod arall o Bwyllgor Gweithredol y Mentrau, mae yna amrywiaeth mawr rhwng lefelau’r cyllid mewn gwahanol ardaloedd ac mae angen cysoni mwy.

“Mae rhai Mentrau’n cael £30,000 y flwyddyn gan y Llywodraeth ac eraill yn cael £97,000,” meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy wrth Golwg360.

“Mae rhai’n stryglo efo dim ond un swyddog ac mae’n anodd iawn creu argraff wedyn.”

Gyda mwy o arian, meddai, roedd modd gweithio yn y maes economaidd a gwneud llawer mwy o ran cynllunio iaith.

Ymateb i adroddiad

Daw’r alwad yn dilyn adroddiad ar waith y Mentrau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd y dylai’r cyfraniad sy’n cael ei wneud gan y Mentrau barhau ac ehangu.

Roedd adroddiad Prifysgol Caerdydd wedi beirniadu rhai mentrau am agweddau “bore coffi” ond, yn ôl Meirion Davies, roedd angen adnoddau a gweithwyr gyda chymwysterau da i ddatrys hynny.

Roedd yr adroddiad yn galw am weddnewid y ffordd y mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo gan nodi bod angen mwy o gydweithio rhwng Mentrau Iaith a chyrff eraill.

Wrth ddweud bod angen rhagor o arian ac adnoddau, roedd hefyd yn argymell newid y system gyllido, fel bod y Llywodraeth yn creu cronfa ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn lleol a’r mentrau wedyn ymhlith cyrff o bob math a allai gystadlu am yr arian i wireddu hynny.

‘Amser i fuddsoddi’

Yn sgil canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011, mae’r amser wedi dod i fuddsoddi, meddai Penri Williams.

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau’r hyn yr ydyn ni’n ei wybod ers blynyddoedd lawer – er bod gan y Mentrau rôl hanfodol i’w chwarae wrth hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg, dyddyn nhw ddim wedi cael digon o adnoddau i wneud hynny,” meddai.

“Rydyn ni’n cydnabod yn llawn ein bod ni’n wynebu hinsawdd economaidd anodd ar hyn o bryd, ond ar yr un pryd mae rhaid inni gydnabod hefyd bod yr iaith Gymraeg yn wynebu heriau difrifol.

“Os yw’r Gymraeg yn colli tir fel iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a’n pobol ifanc fe fyddai hi’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i’w hadennill yn y dyfodol.”

Cefnogaeth

Mae mudiad ‘Dyfodol i’r Iaith’ wedi cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at waith y Mentrau Iaith ac yn galw am drefn gyllido deg iddyn nhw.

Mae’r Mentrau Iaith yn cyflogi dros 300 aelodau o staff ac maen nhw’n cynnal 13,000 o weithgareddau i blant, pobol ifanc, oedolion a dysgwyr bob blwyddyn.