M4
Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, wedi cyhoeddi y bydd cyffordd 41 o’r M4 yn cau dros dro, fel arbrawf gan Lywodraeth Cymru i geisio lleddfu llif traffig o amgylch ardal Port Talbot.

Mae disgwyl i’r rhan o’r M4 gau i’r ddau gyfeiriad yn yr haf, ond does dim dyddiad pendant wedi ei roi eto.

Bydd yr arbrawf yn asesu manteision economaidd cau’r gyffordd, ac yn rhoi “data cadarn er mwyn gallu penderfynu ar y ffordd ymlaen,” meddai’r Gweinidog.

Yn ystod yr arbrawf, bydd y Llywodraeth yn gofyn i’r cyhoedd am eu sylwadau.

‘Manteision economaidd’

Dywedodd Edwina Hart: “Fe wnes i ddweud wrth y Cynulliad ar Fawrth 5 fod Llywodraeth Cymru’n cynnal astudiaeth ar hyn o bryd o batrymau traffig yn ardal Port Talbot.

“Mae’r astudiaethau’n rhagweld cynnydd yng nghapasiti’r M4 o 11% i’r gorllewin a 2% i’r dwyrain o ganlyniad i hyn.

“Hefyd, disgwylir manteision economaidd ehangach gwerth dros £1 miliwn y flwyddyn yn sgil hyn, drwy arbed amser i bobl ac achosi llai o ddamweiniau.”

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael cynnig cyfrannu £521,000 tuag at y gost o gyflwyno’r newidiadau i ffyrdd lleol, er nad ydyn nhw wedi derbyn y cynnig hwn yn ffurfiol eto.