Llys Ynadon Gogledd Gwlad yr Haf, Weston-super-Mare
Mae athrawes wedi cyfaddef cyfres o droseddau rhyw yn erbyn disgybl yn ei arddegau.

Roedd Kelly Ann-Marie Burgess, 26, o Gasnewydd yng Ngwent wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Gogledd Gwlad yr Haf yn Weston-super-Mare bore ma.

Fe gyfaddefodd bedwar cyhuddiad o weithredoedd rhywiol gyda bachgen rhwng 16 a 17 oed rhwng 1 Ionawr a 28 Awst y llynedd.

Fe ddigwyddodd y troseddau yng ngogledd Gwlad yr Haf pan oedd Burgess mewn “safle o ymddiriedaeth.”

Roedd Burgess wedi cyffwrdd y bachgen yn rhywiol “gan wybod nad oedd yn 18 neu’n hyn.”

Yn ôl Michael Collins ar ran yr erlyniad, fe ddaeth y troseddau i’r amlwg ar ôl i’r bachgen ymweld â chlinig iechyd rhywiol.

Dywedodd: “Roedd y diffynnydd a’r plentyn wedi mynd i glinig iechyd rhywiol lle’r oedd y plentyn wedi datgelu wrth y nyrs ei fod, neu wedi bod, mewn perthynas rywiol gydag athrawes 25 oed, ac wedi cyfeirio ati gan ddefnyddio ei henw.

“Fe eglurodd y nyrs bod hyn yn amlwg yn achos pryder a bod yn rhaid iddi ddilyn canllawiau a fyddai’n golygu bod yn rhaid iddi gyfeirio’r achos mewn cysylltiad â hyn.”

Dywedodd Michael Collins bod y plentyn wedi gadael yr ystafell a dychwelyd gyda’r diffynnydd, a oedd wedi rhoi enw ffug i’r nyrs.

Fe ddechreuodd ymchwiliad gan yr heddlu a chafodd Burgess ei harestio ar 28 Awst.

Roedd Burgess yn wreiddiol wedi gwadu ei bod mewn perthynas gyda’r bachgen gan honni ei bod wedi mynd gydag ef i’r clinig yn dilyn perthynas rhyngddo ef a merch arall oedd yr un oed.

Ond daeth yr heddlu o hyd i negeseuon ar ei ffon symudol a chafodd Burgess ei holi unwaith eto. Y tro hwn, meddai Michael Collins, fe gadarnhaodd ei bod wedi bod mewn perthynas gyda’r bachgen ers mis Ionawr.

Dywedodd nad oedd hi’n credu ei bod wedi gwneud unrhyw beth o’i le gan fod y bachgen yn 16 oed.

Cafodd yr achos ei gyfeirio at Lys y Goron Bryste lle bydd Burgess yn cael ei dedfrydu.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn mynd gerbron y llys ar 7 Ebrill.

Mae Burgess wedi cael ei gwahardd o’r ysgol lle’r oedd yn dysgu.