Gorymdaith i gefnogi teulu April Jones ym Machynlleth
Y gymuned a wynebodd ddiflaniad a llofruddiaeth plentyn bach oedd y prif enillwyr yn seremoni newydd Gwobrau Dewi Sant.
Fe benderfynodd Carwyn Jones roi Gwobr Arbennig y Prif Weinidog i gymuned Machynlleth am eu dewrder a’u hymdrechion adeg y chwilio am April Jones ddiwedd 2012.
Rhieni April, Paul a Coral Jones, oedd yn cyflwyno’r wobr yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd, a hynny i 13 o gynrychiolwyr o’r dref, yn cynnwys cynghorwyr, gwirfoddolwyr yn y chwilio, pennaeth yr ysgol gynradd lle’r oedd April a’r ficer lleol.
Yn ôl y ficer, Kathleen Rogers, fe fydd diwrnod i’r teulu yn cael ei drefnu ym Machynlleth i ddiolch i’r bobo leol.
“Mae April Jones wedi gadael ei hôl yn barhaol ar ein cymuned, er mor fyr oedd ei hoes, drwy ddangos inni wir ystyr undod, tosturi a chariad,” meddai. “Bydd gyda ni yn ein calonnau am byth.
Sylwadau Carwyn Jones
Meddai Carwyn Jones: “Mae’r ysbryd cymunedol a welwyd yn nhref Machynlleth yn ystod digwyddiadau arswydus mis Hydref 2012 yn dal yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom.
“Dangosodd y gymuned gyfan gadernid llwyr, gan ddod at ei gilydd mewn ffordd eithriadol i ddangos cefnogaeth wych.
“Daeth hanesion anhygoel am aelodau’r gymuned hon i’n sylw. Daeth cymorth o bob cyfeiriad – o’r casglwyr sbwriel a fu’n chwilio amdani’n ddiflino, i’r pennaeth ysgol a helpodd y plant i ddygymod â’r hyn a ddigwyddodd, i’r cannoedd o bobl fu’n chwilio ddydd a nos, gan roi bwyd, gwneud brechdanau, a helpu ym mha bynnag ffordd y gallent.”
Yr enillwyr eraill
Arloesi a Thechnoleg – Dr Lyn Evans o CERN, Y Swistir am ei waith ar y Gwrth-drawydd Hadronau Mawr
Chwaraeon – y gyn bencampwraig Paralympaidd, Tanni Grey-Thompson
Dewrder – Karin Williams, ’dynes lolipop’ o’r Rhws a safodd o flaen car i amddiffyn plant
Dinasyddiaeth – Yaina Samuels, a fu’n gaeth i gyffuriau ac a greodd fenter i rybuddio eraill am y peryglon
Rhyngwladol – y canwr, Bryn Terfel
Diwylliant – y gantores, Cerys Matthews
Menter – Robin Jones, Village Bakery, Wrecsam
Pobol Ifacn – Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd am Taekwondo