Darren Millar
Mae’r Ceidwadwyr wedi ymosod eto ar ffigurau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru – er gwaetha cyhoeddiad gan y Llywodraeth o £5 miliwn ychwanegol at gyflymu’r broses o adnabod clefydau.

Mae traean o gleifion Cymru’n gorfod aros mwy na’r targed o wyth wythnos ar gyfer gwasanaethau diagnostig, meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Darren Millar.

Dyna’r canran ucha’ ers mwy na dwy flynedd, meddai, gan feio Llywodraeth Cymru am roi llai o arian yn gymharol i’r Gwasanaeth Iechyd na’r un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Y ffigurau

Mae’r ffigurau’n golygu fod bron 28,000 o bobol y mis Ionawr eleni yn aros mwy nag wyth wythnos am ddiagnosis – cynnydd o bron 1,200 ar y mis cynt.

Roedd Darren Millar yn tynnu sylw hefyd at ffigurau eraill sydd wedi eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod 13.2% o gleifion ym mis Ionawr yn aros mwy na’r targed o 26 wythnos rhwng diagnosis a thriniaeth – 5% yw’r targed.

O’r bobol a gafodd driniaeth ym mis Ionawr, roedd 21.3% wedi bod yn aros mwy na’r 26 wythnos.

‘Taro’n galed’

“Mae Llafur Cymru wedi gorfodi’r setliad ariannol gwaetha yn y Deyrnas Unedig ar y Gwasanaeth Iechyd ac mae eu gwaddol o doriadau gwario mwy nag erioed o’r blaen wedi rhoi pwysau mawr ar staff rheng flaen ac yn taro cleifion yn galed,” meddai Darren Millar.

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb trwy gyhoeddi bod arian ychwanegol yn mynd at gyflymu’r broses o gynnig diagnosis.

Ac mae’r ystadegau hefyd yn dangos fod rhestrau aros tymor hir am therapi wedi lleihau rhwng Rhagfyr 2013 a Ionawr 2014.