Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford wedi cyhoeddi nawdd o oddeutu £5 miliwn i geisio lleihau’r amser y mae’n rhaid i gleifion aros cyn cael profion iechyd.

Dywedodd y byddai’n sicrhau diagnosis cyflymach fel y gall cleifion dderbyn triniaeth yn gynt.

Ar hyn o bryd, dywed Llywodraeth Cymru na ddylai unrhyw glaf aros mwy nag wyth wythnos cyn cael prawf diagnosis ar ôl cael eu cyfeirio at yr ysbyty gan feddyg teulu.

Yn ogystal, maen nhw’n dweud na ddylai 95% o gleifion orfod aros mwy na 26 wythnos i gael dechrau triniaeth a dylai neb orfod aros mwy na 36 wythnos.

Bydd disgwyl i’r byrddau iechyd gydweithio a defnyddio ychydig o’r nawdd i ariannu offer arbenigol ar gyfer rhanbarthau cyfan.

Y manylion

Fe fydd £1 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar offer newydd, gan gynnwys peiriannau sganio.

Fel rhan o’r nawdd, fe fydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn derbyn £102,000 i brynu dau froncosgop a strobosgop llais, ac fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn derbyn £780,000 ar gyfer peiriant sganio CT newydd a £300,000 i brynu tri pheiriant sganio uwchsain.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Er gwaetha’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, mae mynediad i brofion diagnostig yn gwella.

“Fodd bynnag, rwy’n derbyn bod amserau aros yn dal yn rhy hir mewn rhai achosion, a dyna pam rwy’n cyhoeddi’r nawdd newydd a fydd yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd i leihau amserau aros ar gyfer y sganiau a phrofion penodol hynny lle mae heriau penodol yn bodoli.

“Fe fydd cyflymu mynediad i’r profion hyn yn golygu bod cleifion yn derbyn y canlyniadau’n gynt, ac y gallan nhw ddechrau ar eu triniaeth yn gynt, gan olygu y dylai amserau aros leihau ar y cyfan.”

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt fod “darparu Gwasanaeth Iechyd diogel a chynaliadwy yng Nghymru’n flaenoriaeth” i Lywodraeth Cymru.