Cyngor Gwynedd
Mae pobl leol ym Methel ger Caernarfon wedi galw ar Gyngor Gwynedd i glirio llecyn o dir sydd, yn eu tyb nhw, ân atal datblygiad tai newydd yn yr ardal.

Mae 37 o dai wedi eu hadeiladu ar dir Bro Eglwys ers y 70au, gyda’r tŷ olaf wedi ei adeiladu yno yn y blynyddoedd diweddar.

Mae caniatâd i ddatblygu 12 tŷ arall ar dir yng nghanol Stad dai Bro Eglwys, ond mae’r tir hwn yn berchen i dirfeddiannwr preifat ac “mae’r tir wedi gordyfu gan wneud y llecyn yn flêr ac yn hyll” meddai trigolion lleol.

“Mae lle blêr fel hyn ar lecyn o dir yng nghanol stad o dai yn boendod ac mae’r trigolion lleol wedi cael digon!” meddai Cynghorydd Plaid Cymru, Huw Hughes, sy’n cynrychioli trigolion Bethel ar Gyngor Gwynedd.

“Mae’n difetha golwg y pentref ac mi all fod yn beryglus i blant ifanc.”

Mae’r cynghorydd wedi bod yn cydweithio â’r gymuned leol i geisio datrys y broblem ac wedi “anfon llythyr swyddogol at Gyngor Gwynedd i ofyn i’r swyddogion ddatrys y broblem gyda’r perchennog y tir”.

‘Pryder’

Yn ogystal â hyn, mae llecyn arall o dir cyfagos wedi’i glustnodi ar gyfer cynllun tai 24 cartref, gyda 15 ohonynt yn gartrefi fforddiadwy.

Mae “y problemau yn Stad Bro Eglwys yn rhwystr i ddatblygu’r llain hwn o dir,” meddai’r cynghorydd.

Mae Huw Hughes yn galw ar y Cyngor i ystyried y mater “ar fyrder” ac yn dweud ei bod yn “rhwystredig bod gan bentref bach fel Bethel ganiatâd cynllunio ar gyfer 36 o dai a ddim byd yn datblygu”.

Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru, Gareth Roberts, fod “straeon tebyg am geisiadau cynllunio heb eu gweithredu i’w clywed ledled Gwynedd oherwydd bod cyllid datblygwyr wedi sychu oherwydd y dirwasgiad a bod y farchnad dai wedi bod ar i lawr”.