Jocelyn Davies
Mae Plaid Cymru yn galw am wneud cytundebau gwaith dim-oriau yn anghyfreithlon mewn awdurdodau lleol, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi eu cais.
Mae’r Blaid wedi cyflwyno gwelliant i Fesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), i wahardd y defnydd o gytundebau dim-oriau gan awdurdodau lleol neu mewn cytundebau gwasanaeth a gyhoeddir gan awdurdodau lleol.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Dai, Jocelyn Davies, ei bod yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd, gan fod aelodau allweddol o’r Blaid Lafur wedi siarad yn gyhoeddus yn erbyn contractau o’r fath dros y misoedd diwethaf:
“Mae cytundebau dim-oriau yn ffordd o gymryd mantais ac maen nhw’n broblem gynyddol.
“Mae unigolion yn cael eu clymu i gytundebau sydd ddim yn cynnig unrhyw sicrwydd o waith o un diwrnod i’r llall, ac ni ddylem annog eu defnyddio o gwbl.
“Dywedodd y Prif Weinidog ei hun wrthym fod contractau dim-oriau yn berygl i weithwyr, ac y bydd yn ymchwilio i weld beth ellir ei wneud i leihau’r defnydd ohonynt – felly rwy’n llawn ddisgwyl i’w lywodraeth gefnogi’r gwelliant hwn a gadael i ni gymryd y cam pwysig hwn tuag at eu dileu.”
‘Tanseilio safonau’
Ychwanegodd Jocelyn Davies fod Plaid Cymru wedi clywed fod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn bwriadu defnyddio cytundebau dim-oriau i staffio gwasanaethau cymdeithasol a chartrefi gofal.
Dywedodd: “Mae perygl i hyn danseilio safonau heb sôn am ostwng ysbryd pobl. Allwn ni ddim caniatáu i’r cytundebau camfanteisiol hyn gael eu defnyddio fel ffordd o dorri costau.