Peter Hain
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Peter Hain o geisio ‘tanseilio’ Carwyn Jones.

Daw’r ffrae fewnol honedig ar ôl sylwadau gan Brif Weinidog Cymru mewn cynhadledd i’r wasg y bore ma.

Roedd ysgrifennydd Cymru’n wrthblaid, Peter Hain, wedi dweud ddoe fod Ieuan Wyn Jones yn rhan “aneffeithiol” o Lywodraeth y Cynulliad.

Dywedodd ei fod yn anodd cyfiawnhau “cael aelod mor aneffeithiol mewn cabinet o naw yn unig”.

Ymatebodd Carwyn Jones i’r feirniadaeth heddiw gan ddweud “nad oes aelod aneffeithiol yn fy llywodraeth i”.

Pwysleisiodd Carwyn Jones hefyd mai ef oedd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, ac nid Peter Hain, ac mai ei swyddogaeth ef oedd siarad ar ran y Blaid Lafur.

“Sylwadau Peter Hain yw’r rheini. Dydyn nhw ddim yn sylwadau sydd wedi eu cyhoeddi gan y Llywodraeth,” meddai.

‘Brwydr dros galon y Blaid Lafur’

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, bod y ffraeo yn rhan o frwydr dros reolaeth wrth galon y Blaid Lafur yng Nghymru.

“Yn 2007 ceisiodd Peter Hain ddinistrio cytundeb Cymru’n Un rhwng Plaid a Llafur,” meddai. “Ers hynny mae o wedi bod yn gwneud ei orau i ansefydlogi Llywodraeth Cymru.

“Mae o wedi treulio’r mis diwethaf yn ymgyrchu yn isetholiad Barnsley yn hytrach na refferendwm Cymru.

“Nawr mae o’n canolbwyntio ar geisio tanseilio Carwyn Jones. Mae’n rhaid ei fod yn anodd i Carwyn Jones fwrw ymlaen â’i waith o arwain y blaid Lafur dan y fath amgylchiadau.

“Mae yna’n amlwg brwydr am rym yn mynd ymlaen o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru a dyw Peter Hain ddim mewn rheolaeth.”