Fe fu cannoedd o gyfreithwyr troseddol yn protestio yn San Steffan heddiw, yn erbyn toriadau o £200 miliwn i’r drefn o roi Cymorth Cyfreithiol.

Dyma’r ail dro i gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr gerdded allan o’u gwaith, am eu bod yn credu y bydd toriadau i gymorth cyfreithiol yn effeithio ar allu pobol gyffredin i gael amddiffyniad teg.

Mae Cymorth Cyfreithiol ar gael i bobol sydd am ddwyn achosion ac yn gofyn am help ariannol er mwyn gwneud hynny.

Bwriad yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chirs Grayling yw torri ffioedd cyfreithwyr, mewn ymgais i gwtogi £200 miliwn o bot cyllid £2 biliwn y drefn Cymorth Cyfraith erbyn 2018/19.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y newidiadau’n angenrheidiol er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymorth Cyfreithiol.

Ond mae’r CBA, cymdeithas cyfreithwyr troseddol,  wedi galw’r toriadau yn “erchyll” gan ddweud eu bod am achosi difrod i’r system gyfreithiol.

Roedd nifer o gyfreithwyr yn y brotest wedi gwisgo wig a chlogyn traddodiadol.