Protest flaenorol gan y Gymdeithas dros S4C
Mae dau aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi eu rhyddhau ar fechniaeth gan ynadon Caerdydd, heddiw.
Roedd Jamie Bevan, 34, o Ferthyr Tudfil a Heledd Williams, 20, o Nant Peris wedi ymddangos o flaen llys wedi eu cyhuddo o fwrgleriaeth.
Roedden nhw wedi torri i mewn i swyddfa’r Ceidawdwyr yng Nghaerdydd, yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid yn Stadiwm Swalec.
Cafodd y ddau eu harestio ar ôl y brotest yn swyddfa yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Jonathan Evans, yn yr Eglwys Newydd.
Roedden nhw’n protestio yn erbyn toriadau i gyllideb S4C a cynlluniau Llywodraeth San Steffan i’w roi dan adain y BBC.
Fe fydd rhaid i’r ddau ddychwelyd i’r llys am 9.45am ar 4 Ebrill.
‘Nid ar chwarae bach’
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n bwriadu parhau â’u hymgyrch nes cael sicrwydd o annibyniaeth y sianel a chyllid digonol i sicrhau hynny
“Nid ar chwarae bach mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gweithredu mor ddifrifol,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“ Mae llywodraeth Prydain wedi diystyru pobl Cymru o’r dechrau yn ystod y broses hon. Fe wnaethon nhw benderfyniad munud olaf ar ddyfodol S4C, heb ymgynghori o gwbl gydag S4C na gweinidogion yng Nghymru; ac yn ddiweddar mae Jeremy Hunt wedi anwybyddu galwadau gan arweinwyr yr holl bleidiau yng Nghymru am arolwg llawn o S4C cyn gwneud penderfyniad
“Mae’r ffaith fod rhai aelodau cynulliad Ceidwadol wedi siarad yn erbyn cynlluniau eu plaid eu hunain yn San Steffan yn arwyddocaol.”