Ysbyty Gwynedd, Bangor
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am help y cyhoedd, wedi i ladron dorri i mewn i orsaf bwer fechan ar dir Ysbyty Gwynedd, Bangor, a dwyn copr. Fe adawodd y lladron hefyd “ddifrod sylweddol” yn eu sgil.

Gweithwyr y cwmni ynni, Scottish Power, ddaeth o hyd i’r difrod a’r golled, pan oedden nhw’n gwneud archwiliad o’r safle, fel y byddan nhw’n gwneud yn rheolaidd. Y gred ydi fod y copr wedi’i ddwyn, a’r lle wedi’i fandaleiddio, yn ystod yr wythnos gynt.

“Mae weiars copr wedi’u dwyn,” meddai’r Sarjant David Hughes o Heddlu Gogledd Cymru, “ac er mwyn i hynny ddigwydd mae’n debygol iawn fod y lladron wedi gorfod treulio peth amser yno, ac mae’n debygol iawn fod ganddyn nhw gerbyd hefyd er mwyn cario’r copr oddi yno.”

Mae nifer yr achosion o ddwyn metelau fel copr ar gynnydd yng ngwledydd Prydain, ac yn werth tua £770m bob blwyddyn bellach.