Oscar Pistorius (Llun: PA)
Mae lluniau fideo newydd yn dangos yr athletwr, Oscar Pistorius, yn ymarfer saethu at dargedau, cyn iddo saethu ei gariad yn farw y llynedd, wedi’u darlledu ar deledu.

Fe fydd y paralympiwr yn sefyll ei brawf yr wythnos nesa’, wedi’i gyhuddo o lofruddio’i gariad.

Heddiw, mae sianel deledu Sky News wedi darlledu’r lluniau fideo o Pistorius yn tanio gwn a phistol er mwyn chwalu melon a oedd wedi’i osod yn darged ymarfer mewn canolfan saethu. Mae pobol sy’n ei wylio’n saethu ar y fideo i’w clywed yn sgrechian ac yn chwerthin yn uchel wrth iddo lwyddo i daro’r targed.

Fe fydd yr achos llofruddiaeth yn cychwyn ddydd Llun, gyda’r erlyniad yn mynnu fod Oscar Pistorius wedi cael ffrae gyda’i gariad, Reena Steenkamp, cyn ei lladd. Roedd wedi tanio bwledi trwy ddrws yr ystafell ymolchi yn ei gartre’ ar Chwefror 14, 2013. Mae’r athletwr yn mynnu ei fod yn credu fod rhywun wedi torri i mewn i’r ty, a’u bod yn cuddio yn yr ystafell honno ganol nos. Ond, mewn gwirionedd, ei gariad oedd yno.

Mae’r erlyniad yn mynnu y dylai gael ei garcharu am oes.